Arddangosfa Ddarlunio 2021

Thalia Dougourou.

Fy enw yw Thalia Dougourou ac rwy’n fyfyrwraig darlunio 20 mlwydd oed ar fy nhrydedd flwyddyn ym mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Fy ngweithgareddau oriau hamdden yw canu, ysgrifennu creadigol a chwarae pêl rwyd ar lefel sir a rhanbarthol. Mae cerddoriaeth a chwedleua yn hynod o bwysig i mi oherwydd eu natur ysbrydol; yn yr ystyr eu bod yn medru eich dwyn i’r man cysegredig o’ch mewn chi eich hunan.

Wnes i gael mwynhad gwirioneddol yn gweithio gyda Hijinx oherwydd wnes i ddod i adnabod rhai o’r staff a’r perfformwyr ac roedden nhw i gyd mor gyfeillgar a pharod i helpu. Hefyd, fe wnes i werthfawrogi’n fawr iawn y ffaith bod gennym ni, fel darlunwyr, lawer o ryddid gyda’n briff. Fy hoff ran oedd lle’r oedd yn rhaid i bawb feddwl am wrthrych arbennig ac fe wnaeth rhywun feddwl am afal oedd yn agor yn lledrithiol gan ffrwydro losin oedd yn fy marn yn ‘cŵl’ iawn! Dyna rywbeth yr oeddwn i hefyd eisiau ei gynnwys yn fy ngwaith celf ar gyfer yr arddangosfa. Roedd yr arwyddion dwylo y roedd pawb yn cysylltu â’u hunain hefyd yn ddiddorol.

Buaswn yn dweud bod fy ngwaith personol wedi ei wreiddio’n ddwfn mewn diwylliant du a mytholeg a fy hoff ddeunyddiau yw pensiliau graffit a siarcol. Wnes i wir fwynhau creu gwaith i Hijinx oherwydd ei fod wedi caniatáu i mi greu celf sy’n fwy mynegiannol a haniaethol o’i gymharu â’r hyn rwy’n ei wneud fel arfer.

Instagram: @tjd.illustration