Telemachus

12 Diwrnod o BAWB.

Gwnaeth Telemachus ffilm fer Light from the Past ar gyfer 12 Diwrnod PAWB 2021. Ysbrydolwyd y prosiect gan yr ‘hynafiaid’ yn sioe 2021 Odyssey, Pinocchio and The Northern Lights. Fe wnaethant y ffilm yn defnyddio goleuadau a symudiad, ac roedd y canlyniad yn hyfryd! Edrychwch ar y ffilm islaw.

Cyfarwyddwr: Sophia Karpaty
Gwneuthurydd Ffilm: Chris Lloyd
Galluogwyr Creadigol: Olivija Arlauskaite, Zach Ashley and Richard Newnham
Cast: Sara Arafa, Cameron Hayden, Joseph Howells, Amy Johnston, Callum Murray, Rain Preece, Owain-Rhys, Antanas Schiastney, Megan Stone, Josh Walker, Fiona Wilson.

Diddordeb mewn ymuno â Telemachus?.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn theatr, cael hwyl a chwrdd â phobl newydd? Ydych chi eisiau ymchwilio sgiliau newydd a gwthio eich ffiniau eich hun?

Anelwyd Telemachus at rai 16 i 24 oed ac mae’n grŵp cynhwysol ar gyfer pobl ifanc mentrus ac wrth wrth eu bodd yn creu a perfformio, gyda a heb anableddau dysgu.

Cynhelir sesiynau ar ddyddiau Mercher rhwng 5pm – 6.30pm neu 6.30 – 8pm yng Nghanolfan Caerdydd, yn unol â’r calendr academaidd. Cost: £40 y tymor.

Cysylltwch drwy ddefnyddio’r ffurflen islaw i ganfod mwy – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Ymuno â Ni.