Dysgwch sgiliau bywyd hanfodol a magwch hyder trwy ddrama, cerddoriaeth a symud. Rydym yn cynnal cyrsiau wythnosol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yng Nghaerdydd a Gogledd Cymru.
Beth fyddaf i’n ei ddysgu.
Byddwch chi’n dysgu ystod o dechnegau perfformio yn ogystal â sgiliau bywyd pwysig, fel cyfathrebu, hunanofal a chyflwyniad, cymhelliant ac agwedd, gwaith tîm, a hunan-barch a hyder.
Pwy fydd yn fy addysgu.
Mae pob un o’n hathrawon yn berfformwyr proffesiynol sydd â phrofiad o weithio gydag oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Ble allaf i fynd.
Ar hyn o bryd mae gennym Sylfaen Drama yng Nghaerdydd ac rydym ar fin ail-lansio ein Sylfaen Drama yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cadw rhestr aros ar gyfer cyrsiau posibl yng Nghaerfyrddin neu Aberystwyth.
Beth yw’r nod.
Cael hwyl, datblygu sgiliau bywyd ac adeiladu cymuned ledled Cymru o bobl greadigol ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth
Darganfod fwy.
Holl wybodaeth am pryd a lle mae dosbarthidau yn digwydd, pa fath o weithgareddau rydyn ni'n rhedeg ac unrhyw costau sydd ynghlwm.
Rhagor o Wybodaeth