Cynhelir dosbarthiadau wythnosol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd eisiau perfformio yn ogystal â gwella eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu.
Sut mae o'n gweithio.
Caiff dosbarthiadau’r Cyrsiau Sylfaen mewn Drama eu cynnal unwaith yr wythnos trwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu man hwyliog, cymdeithasol a hamddenol le mae oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn dysgu sgiliau drama, cerddoriaeth a symud. Yn ogystal, bydd cyfranogwyr yn dysgu ystod o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys cyfathrebu a gwaith tîm.
Lle allai'i fynd.
Mae yna tri grŵp Sylfaen Drama ledled Cymru.
Sylfaen Drama (dydd Mawrth) a Sylfaen Drama (dydd Mercher) – Canolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd
Sylfaen Drama y Gogledd – Canolfan Nova, Prestatyn Â
Pryd mae o'n digwydd.
Mae pob grŵp yn cwrdd unwaith yr wythnos;
Sylfaen Drama, Caerdydd – dydd Mawrth a dydd Mercher, 9.30yb tan 3yh
Sylfaen Drama y Gogledd – dydd Mercher, 10yb tan 3.30yh
Mae dosbarthiadau yn rhedeg drwy’r flwyddyn, yn torri am Gwyliau’r Banc, hyd at pythefnos dros y Nadolig ac wythnos y Pasg.
Beth yw'r gost.
Gall y gost amrywio rhywfaint yn dibynnu ar eich lleoliad, ond tua £42 y dydd yw’r arfer. Gallech drafod gyda’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch tîm cynllunio am gyllideb ar gyfer hyfforddiant a chostau teithio.