Ahoi gyfeillion! Gwrandwch ar chwedl yr Odyssey Inn….
Pan ddangosa Billy hen fap trysor i Jemima, mae antur yn eu haros. Yn fuan mae ein harwyr yn hwylio’r moroedd mawr ar daith fydd yn eu clymu am byth. Stormydd. Gwylanod. Brwydrau â chleddyf. Allan nhw ymdopi â’r daith fentrus yma a dod o hyd i’r trysor cudd…?
Ymunwch â grŵp theatr cymunedol Hijinx, Odyssey, ar antur fyrlymus wedi ei hysbrydoli gan ‘Ynys y Trysor’ Robert Louis Stevenson. Yn cynnwys cast mawr o berfformwyr anabl a heb fod yn anabl, mae’r sioe deuluol hon yn llawn o gomedi, cyffro a cherddoriaeth wreiddiol.
Ond cofiwch… gwyliwch y cracen!
Mwy o wybodaeth:
Dyddiadau ac amseroedd:
Dydd Iau 21 Tachwedd, 7pm
Dydd Gwener 22 Tachwedd, 7pm
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd, 3pm + 7pm
Hygyrchedd:
Bydd sain ddisgrifiad gan Alastair Sill ar gael ym mhob perfformiad.
Bydd teithiau cyffwrdd ar gael ar gais wrth archebu. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk
Bydd BSL integredig gan Sami Dunn ym mhob perfformiad.
Gellir archebu tocynnau trwy wefan Canolfan Mileniwm Cymru. Pirates of the Odyssey Inn yw sioe Hijinx Odyssey i ddathlu 25 mlynedd. Dysgwch fwy am Odyssey yma.
Celf gan Ozzy Corbett.