Penderfyniad Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru.
Rydym yn hapus o fod wedi derbyn y newyddion yr wythnos hon, yn dilyn Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru ein bod wedi derbyn cynnydd yn ein cyllid am y tair blynedd o Ebrill 2024. Mae’r cynnydd yn y gefnogaeth yn ddatblygiad o bwys i artistiaid ag anabledd dysgu a niwroamrywiol yng Nghymru a bydd yn ein helpu i raddoli ein gwaith ar lefel genedlaethol.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor y Celfyddydau am eu cefnogaeth a’u cydnabyddiaeth o’n heffaith a’n hymrwymiad wrth yrru newid a gweithio dros sector fwy cynhwysol; rydym yn gyffrous iawn am y bennod newydd hon i Hijinx.
Cefnogir Hijinx gan deulu gwirioneddol – o weithwyr creadigol llawrydd i wirfoddolwyr, aelodau staff i gyfranogwyr, ymddiriedolwyr ac aelodau o’r teuluoedd. Rydym wedi creu enw da fel casgliad creadigol, ystwyth a dewr sy’n ymateb i her ac yn creu newid i’n cymuned. Rydym yn diolch iddynt i gyd am ein helpu i gyrraedd y fan hon.
Er ein bod yn falch iawn o’r canlyniad hwn i Hijinx - mae ein calonnau gyda’r sefydliadau sydd wedi derbyn newyddion anodd a siomedig yr wythnos hon. Mae ein drws ar agor bob amser, a byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth a bod yn agored i sgyrsiau creadigol.
Archebwch eich tocynnau ar gyfer ein cyd-gynhyrchiad sydd ar ddod gyda Theatr y Sherman, Housemates, 6 - 14 Hydref.
Archebu Tocynnau