Pobl y Chymuned sydd wrth wraidd PAWB (dyma yr ydym yn galw ein gwaith cymunedol).
Mae PAWB yn creu cyfleoedd i unrhyw un sydd eisia berfformio, beth bynnag fo’u gallu neu brofiad. Ar gyfer Gŵyl Undod 2024, dewisodd PAWB y thema ‘Artistiaid’. Edrychwch pa artist wnaeth pob grŵp PAWB ei ddewis isod.
Odyssey – Banksy’s Ark
Mae grŵp theatr cymunedol cynhwysol Hijinx yn cynnwys cymysgedd o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ac actorion niwronodweddiadol sy’n perfformio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal. Ysbrydolwyd perfformiad Undod Odyssey gan yr artist Banksy.
Telemachus – Blank Canvas?
Mae grŵp cynhwysol Hijinx ar gyfer pobl ifanc gydag a heb anableddau dysgu sy’n fentrus ac wrth eu bodd yn creu a pherfformio. Ysbrydolwyd perfformiad Undod Odyssey gan yr artist Vincent Van Gogh.
Vaguely Artistic – Frida Kahlo
Vaguely Artistic yw band pync, roc, pop, soul, blŵs a ffync cynhwysol mewnol Hijinx. Yr artist Frida Kahlo oedd ysbrydoliaeth Vaguely Artistic.
Drama Foundations – Pablo Picasso & Kara Walker
Dosbarthiadau wythnosol i oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd am berfformio ar yr un pryd â gwella hyder a sgiliau cyfathrebu. Pablo Picasso a Kara Walker wnaeth ysbrydoli Sylfeini Drama.
Pathways – Tracey Emin
Llwybr hyfforddiant ar-lein i bobl sy’n methu cael darpariaeth fyw oherwydd rhesymau daearyddol yw Llwybrau. Yr artist Tracey Emin oedd ysbrydoliaeth Vaguely Artistic.
__
Theatr Pobl Ifanc y Gogledd – Train Tracks
Mae’r grŵp theatr hwn i bobl ifanc yn dysgu sgiliau amlddisgyblaeth sy’n anelu at gefnogi grymuso cadarnhaol, sgiliau hanfodol a hunangred mewn pobl ifanc ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Dilynodd perfformiad Undod NYPT lwybr gwahanol ac nid oedd yn canolbwyntio ar artist.