Newid canfyddiadau a chynyddu cyfleoedd

Mae Theatr Hijinx, un o’r prif gwmnïau theatr gynhwysol yn Ewrop, yn parhau i hyrwyddo’r neges bwysig bod y diwydiannau creadigol yn gweithio’n gynhwysol yng Nghymru a thu hwnt, gyda mwy o actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn cael eu cynrychioli ac yn weladwy ar y sgrîn. 

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, gellir gweld rhai o actorion Hijinx ar y llwyfan ac ar y sgrîn, gan gynnwys un actor, Justin Melluish, yn chwarae un o’r prif rannau yn y ddrama boblogaidd Hidden ar BBC One Wales.  

Dyma fydd yr olaf o’r gyfres Hidden, pan fydd DCI Cadi John (Sian Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) yn dychwelyd i BBC One Wales a BBC Four. Bydd Justin yn chwarae rhan Glyn, sef brawd y llafurwr lleol Siôn Thomas (a bortreadir gan Sion Ifan).  

Gweithiodd gwmni cynhyrchu Hidden, sef Severn Screen, S4C a BBC Wales ar y cyd mewn partneriaeth â Hijinx. Dywedodd y cynhyrchydd Hannah Thomas o Severn Screen, 

Roedd gweithio gyda Hijinx wedi rhoi cyfle i ni adolygu ein harferion, i feddwl am sut rydyn ni’n gweithio a bod yn fwy cynhwysol, a byddwn yn datblygu hynny mewn cynyrchiadau eraill. Mae Justin yn actor talentog iawn ac roedd gweithio gyda Hijinx trwy’r broses gastio wedi tynnu ein sylw at gymaint o dalent sydd ar gael. Rwy’n gobeithio y bydd cynhyrchwyr eraill yn ystyried eu dulliau nhw hefyd.” 

Dyma brif rôl gyntaf Justin ar y teledu.

Roedd yn brofiad gwych i gyfarfod â’r cast a’r criw. Maen nhw’n bobl hyfryd i weithio gyda nhw ac fe ddatblygais i gysylltiad cryf â fy mrawd Sion yn y gyfres.” 

Justin Melluish - Hijinx Actor

Tra bydd Justin Melluish i’w weld ar y BBC, yn ystod y flwyddyn galendr hon yn unig, mae llawer o actorion Hijinx yn cael clyweliadau ar gyfer rolau eraill ar y teledu.

“Mae 14 o’n hactorion wedi cael clyweliadau ar gyfer rolau teledu oriau brig, cynyrchiadau theatr ar raddfa fawr a phrosiectau realiti rhithwir arloesol. Bydd gweddill y flwyddyn yn brysur i actorion talentog Hijinx.”

Ellen Groves - Pennaeth Datblygu Busnes, Hijinx

Mae rhaglen hyfforddi arloesol Hijinx wedi gwneud newidiadau sylweddol i’r canfyddiad o sut mae actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn cael eu gweld ar y llwyfan, ar y sgrîn ac yn y gymuned. Yn ei Adroddiad Effaith Gymdeithasol diweddar, canfu ymchwilwyr fod Hijinx wedi newid y ffordd y mae’r diwydiannau creadigol yn gweithredu ers 2019.  

  • Dywedodd 90% o’r bobl greadigol sy’n gweithio gyda Hijinx eu bod yn fwy cynhwysol ac wedi newid y ffordd maen nhw’n gweithio.  
  • Mae Hijinx hefyd wedi cynhyrchu £119,000 o werth mewn sgiliau a chyfleoedd ar gyfer actorion, staff a phartneriaid. 

Yn rhan o’u huchelgais i gynyddu nifer y bobl anabl a/neu awtistig sy’n cael eu cynrychioli ar y llwyfan ac ar y sgrîn, mae Hijinx wrthi’n datblygu ystod o wasanaethau cymorth ar gyfer y sector sgrîn i helpu cynyrchiadau i weithio’n fwy cynhwysol.  

Gyda chymorth Clwstwr, mae’r prosiect Ffilm Gynhwysol yn gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu ledled Cymru, gan gynnwys Severn Screen, i ymchwilio a datblygu hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n gweithio ar gynyrchiadau i gyfathrebu’n fwy effeithiol, ochr yn ochr â chymorth ymgynghori, er mwyn sbarduno ffyrdd mwy cynhwysol o weithio a fydd yn helpu i greu mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector. 

Yn Hijinx, rydyn ni’n gweld pŵer theatr a’r celfyddydau i drawsnewid bob dydd. Rydyn ni’n falch o greu gwaith a phrofiadau sy’n newid canfyddiadau pobl, a chreu newidiadau sy’n arwain at fwy o gyfleoedd, ond rydyn ni’n gwybod bod angen i ni wneud llawer mwy o hyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o adfer. Rydyn ni eisiau sicrhau nad yw ein cymunedau’n cael eu heithrio rhag ymgysylltu â’r celfyddydau ar ôl y pandemig. Byddwn ni, ochr yn ochr â llawer o sefydliadau ac unigolion eraill, yn parhau i bwyso am ddarpariaeth gynhwysol ar gyfer artistiaid, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd. Rydyn ni eisiau i’r diwydiannau sgrîn a llwyfan ddilyn Saith Egwyddor y Diwydiant, sef canllaw newydd i helpu’r diwydiant i wneud penderfyniadau’n gynhwysol, i fynd y tu hwnt i gydymffurfio a dathlu amrywiaeth, gan arwain at adferiad gwirioneddol gynhwysol.” 

Sarah Horner - Prif Weithredwr, Hijinx

Cefnogwyd Adroddiad Effaith Gymdeithasol Hijinx gan Sefydliad Banc Lloyds.

Bydd Hidden yn cael ei darlledu ar BBC One Wales nos Fercher 16 Mawrth am 9pm ac ar BBC Four ar 19 Mawrth am 9pm. Bydd y gyfres ar gael i’w gwylio ar iPlayer hefyd.