Metamorphosis wedi ei ddewis i rownd derfynol Gŵyl & Gwobrau Good The@tre 2020!
Mae perfformiad digidol ar-lein Hijinx, Metamorphosis, a dderbyniodd glod uchel iawn gan yr adolygwyr, wedi ei ddewis i rownd derfynol digwyddiad codi arian rhyngwladol, sef the Good The@tre Festival 2020, a fydd yn arddangos y profiad rhyngweithiol ar-lein ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd, cyn cyhoeddi enillwyr gwobrau’r ŵyl.
Mae cwmni Hijinx, o Gaerdydd, yn creu cynyrchiadau theatrig eithriadol gydag actorion anabl a/neu awtistig. Mae ei waith theatr, sy’n derbyn canmoliaeth uchel, yn wreiddiol, yn rhyfeddol, cyffrousa doniol, ac mae’r galw amdano’n fawr o bedwar ban byd. Ymhlith y cynyrchiadau mae Meet Fred, The Flop ac Into the Light (gyda Frantic Assembly) a bu ar daith i dros 20 o wledydd yn ystod blynyddoedd diweddar.
Ysbrydolwyd Metamorphosis gan nofel fer glasurol Franz Kafka, ac fe’i hailddychmygwyd ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein tra’n archwilio’r manteision, y cyfyngiadau a gwerth comedïaidd galwadau fideo. Roedd Metamorphosis yn waith arbrofol ar gyfer Hijinx drwy ailgreu natur hynod ryngweithiol Hijinx trwy gyfrwng yr ymarferoldeb sydd ar gael gyda Zoom.
Fe’i perfformiwyd gyntaf eleni yng ngŵyl ddigidol ar-lein Green Man: Festival of Streams ym mis Awst. I’r rhai a fethodd y profiad, mae cyfle i gynulleidfaoedd ymgysylltu eto â’r perfformiad ddydd Sadwrn 28 Tachwedd am 8.30am a 9.30pm (GMT) ac i helpu gefnogi’r celfyddydau fel rhan o achlysur codi arian.
Mae Metamorphosis yn dilyn hanes Gregor Samsa sy’n dihuno un bore o freuddwydion anesmwyth i ganfod ei fod wedi troi’n anghenfil o bryfyn trogennog. Mae wedi’i analluogi, wedi ei gyfyngu i’r tŷ, yn methu gweithio ac yn methu gafael yn dynn yn ei deulu. Yn y fetaddrama hon, mae pob un o’r 11 cymeriad yn dihuno i fyd gwahanol, yn cael eu gorfodi i ailddehongli eu proffesiwn, eu hunaniaeth, yn wir, eu gwerth i’r byd.
Yn ystod y perfformiad, caiff y gynulleidfa gyfle i ryngweithio trwy Zoom neu hyd yn oed i fod yn rhan o’r gweithgareddau, felly dylen fod wedi eu gwisgo’n briodol, neu o leiaf, wedi gwisgo. Bydd cast Hijinx yn perfformio’n fyw o’u cartrefi, lle gallai ambell ecstra annisgwyl (ci, gath neu blentyn) ymddangos unrhyw bryd.
Bydd yr actor Ffion Gwyther o Academi Hijinx, a ddaeth yn llwyddiant ysgubol ar youtube yn ddiweddar gyda’i fideos cyfnod clo a’i hymadrodd 'cwtch in and have a drink', yn ymddangos yn y cynhyrchiad theatrig ar-lein ynghyd â phedwar actor arall o Academi Hijinx a phum tiwtor Hijinx. Academi Hijinx yw’r unig gwrs hyfforddi perfformio i actorion ag anableddau dysgu trwy Gymru gyfan.
Bydd Gŵyl Good The@tre 2020 hefyd yn cynnwys actorion eraill yn y rownd derfynol o Frasil, yr Unol Daleithiau, Prydain, y Ffindir, Sweden, yr Almaen, Cabo Verde, Nigeria, Senegal, De Affrica, Zimbabwe, Iran, India, Singapôr, cyn cael eu beirniadu gan banel o Pilipinas (Ynysoedd Philippines), Singapôr, India, yr Eidal, y Ffindir, Prydain a’r Unol Daleithiau. Mae’r gwobrau’n cynnwys Perfformiad Gorau, y Sgript Orau, Defnydd mwyaf Arloesol o Dechnoleg, y Cyfarwyddo Gorau a’r Cynhyrchiad Gorau i’w cyflwyno ar gyfer e-ddramau.
Mae Gŵyl a Gwobrau Good The@tre yn ddigwyddiad codi arian yn ogystal ag yn achlysur i gydnabod y rhai sydd wedi creu yn ystod y cyfnod diweddar o gau gofodau perfformio ar draws y byd. Lluniwyd yr Ŵyl a’r Gwobrau i godi arian angenrheidiol i grefftwyr theatraidd yn India sydd heb unrhyw ffynhonnell ariannol i’w cynnal. Mae’r Tocyn Tymor i gael mynediad at yr ŵyl gyfan AM DDIM rhwng 21 a 29 Tachwedd, ond bydd croeso i unrhyw gyfraniad ariannol yn ystod y cyfnod hwn o angen. https://www.theredcurtaininternational.org/donate
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Hijinx a Chyfarwyddydd Metamorphosis, Ben Pettitt-Wade, “Rydym yn falch tu hwnt o gael ein dewis i fod yn rhan o’r ŵyl hon. Nid yn unig oherwydd ein bod yn gefnogwyr brwd o’r achos a gynrychiolir ganddynt – bydd yr holl arian o’r ŵyl yn mynd at artistiaid yn India sydd â’r angen mwyaf. Mae’r pandemig hwn wedi effeithio ar y celfyddydau ym mob rhan o’r byd ac mae’n anochael mai’r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf ar yr adeg hon yw masnachwyr unigol a gweithwyr llawrydd sydd yn bendant yn wir ym Mhrydain. Rydym yn falch iawn o fod ynghlwm ag unrhyw beth a all helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf ar yr adeg hon.”
Mae Hijinx yn derbyn nawdd hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth Julia a Hans Rausing, Sefydliad Banc Lloyds, Sefydliad Morrisons, Sefydliad Rayne a BBC Plant Mewn Angen.
Mae’r perfformiadau hyn yn cael cefnogaeth hael gan British Council Cymru