Meet Fred, llwyddiant byd-eang Hijinx yn dod i’r Memo yn y Barri ar 3 Mawrth
Mae Hijinx yn dod â’r sioe sydd wedi bod yn llwyddiant byd-eang, Meet Fred, i Memo’r Barri ar 3 Mawrth, cyn iddi fynd ar gymal olaf ei thaith 52 dyddiad yn Ffrainc. Mae’r perfformiad yn y Barri yn gyfle prin i gyfarfod Meet Fred yng Nghymru.
Hijinx yw un o gwmnïau cynhwysol mwyaf blaengar Ewrop, sy’n creu celfyddyd eithriadol gydag actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistig ar y llwyfan a’r sgrin, i Gymru a’r byd.
Pyped dwy droedfedd o ddefnydd yw Fred sy’n ymladd yn erbyn rhagfarn bob dydd. Y cyfan mae arno ei eisiau yw bod yn foi cyffredin, rhan o’r byd go iawn, cael gwaith a chyfarfod merch, ond pan mae’n cael ei fygwth y bydd yn colli ei PLA (Lwfans Byw Pypedwyr), mae bywyd Fred yn dechrau troelli allan o reolaeth.
Derbyniodd Meet Fred, a gynhyrchwyd gan Hijinx mewn cysylltiad â Blind Summit, adolygiadau gwych yn dilyn ei chyfnod yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2016, lle gwerthwyd pob tocyn, ac a arweiniodd at ymddangosiadau rhyngwladol gan gynnwys yng Ngŵyl Theatr Pypedau’r Byd yn Charleville-Mézières, Ffrainc.
Mae wedi parhau i deithio ac yn awr, yn ei hwythfed flwyddyn, mae Meet Fred wedi cael ei pherfformio dros 250 o weithiau, wedi ei gweld gan dros 25,000 o bobl ac wedi ymweld ag 19 o wledydd trwy Ewrop a thu hwnt, gan gynnwys UDA, Tsieina a De Corea.
Actor Hijinx Lindsay Foster, sy’n dod o’r Barri, yw’r unig aelod o’r cast gwreiddiol sy’n aros ac yn parhau i deithio gyda’r sioe. Meddai Lindsay,
“Mae fy mhrofiad gyda Meet Fred wedi bod yn caotig ac yn hwyl. Gan deithio i fannau newydd na fyddwn byth yn mentro iddyn nhw fy hun. Mae wedi bod yn drist hefyd ar adegau, fel yr unig aelod o’r cast sy’n dal ar ôl ers dechrau’r daith. Rwyf wedi gweld yr hen gast yn camu’n ôl wrth i aelodau newydd gamu i mewn, y cyfan yn dwyn eu hegni eu hunain i’r sioe. Ni allaf aros am gael teithio yn Ffrainc eto. Gwlad y caws a’r croissants!”
Am berfformio yn y Barri am y tro cyntaf, meddai Lindsay mae’n “Gyffrous. Mae’n nes adref. Ac mae fy nheulu’n dod i’w gweld!”
Mae Lindsay’n mynychu un o Academïau hyfforddi perfformio proffesiynol Hijinx ar gyfer actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ac mae’n cael ei chynrychioli gan adain gastio Hijinx, Hijinx Actors. Mae Hijinx Actors yn cynrychioli dros 60 o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd wedi eu hyfforddi’n broffesiynol o bob rhan o Gymru ac mae ganddynt y nod ehangach o gynyddu cynhwysiant wrth gastio yn y diwydiannau llwyfan a sgrin.
Bydd Meet Fred yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo, Y Barri, ar ddydd Gwener 3 Mawrth, am 7.30pm. Addas i rai 14+. Yn cynnwys iaith gref a noethlymundod pypedol.