Cafodd Actorion Hijinx eu mis prysuraf erioed yn gweithio fel actorion ym mis Mawrth! O gynyrchiadau theatr teithiol i weithdai actio mewn sioeau sebon yn y BBC, perfformiadau theatr stryd yn Asia i waith hyfforddi cyfathrebu, roedd actorion Hijinx allan yna yn rhagori mewn swyddi cyffrous ac amrywiol.
Parhaodd Wiliam Young ei daith 3 mis yn actio Lennie yn Of Mice and Men, cynhyrchiad Theatr Derby, Theatr Octagon, Bolton, Theatr Truck Hull a Theatre by the Lake. Mae’r cynhyrchiad wedi teithio i’r holl theatrau sy’n cyd-gynhyrchu ac mae’n anelu am yr olaf, Theatre by the Lake, yn hwyrach y mis hwn. Dywedodd un adolygydd a welodd y ddrama yn Derby:
“Dylanwadwyd yn fawr ar fy mwynhad o’r ddrama hon gan y dalent lwyr sef Wiliam Young. Rwyf wedi adolygu nifer o ddramâu a gallaf ddweud yn ddidwyll ei fod ymhlith y gorau yr wyf wedi eu gweld ar y llwyfan. Mae ei sgil, amseru a chyflwyniad o’r radd flaenaf, ac wrth i’w olygfa olaf ddod i ben ac iddo roi bow roedd dagrau ymhlith y gynulleidfa.”
Bu Justin Melluish, o Ogledd Cymru yn gweithio gyda’r cwmni dawns theatr o Gymru, Humans Move ar ymchwil a datblygu sioe sy’n digwydd yn hwyrach eleni o’r enw Let Life Dance. Dywedodd:
“Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen at ddod â Humans Move i gynulleidfaoedd ers bod yn rhan o’r broses ymchwil a datblygu yn 2023.”
Roedd 10 actor o Academi’r De a Gorllewin Cymru yn ffilmio yn Dragon Studios, Pencoed ar gyfer ffilm fer dan arweiniad pobl anabl.

Bu actorion Hijinx Aaron Relf, Cameron Hayden, Adan C Webb, Iwan Jones, Victoria Walters, Gareth Hopkins i gyd yn helpu i hwyluso ein hyfforddiant cyfathrebu Beyond Words ar gyfer y sector digwyddiadau mewn lleoliadau ar draws Cymru. Disgrifiodd un o’r rhai a gymerodd ran yn yr hyfforddiant yr actorion fel “pleser gweithio gyda nhw” a mynegodd llawer y gwerth yr oeddent yn ei weld wrth i brofiadau’r actorion ffurfio’r sefyllfaoedd chwarae rhan.
Gweithiodd Cameron ac Aaron hefyd fel actorion yn ein hyfforddiant ar gyfer Ysgol Fferylliaeth Caerdydd, yn ychwanegol at Jacques Colgate a Tommy Rhys-Powell, gan weithio trwy sefyllfaoedd chwarae rhan gyda myfyrwyr i gryfhau eu sgiliau cyfathrebu mewn lleoliadau fferylliaeth.
Mwynhaodd Gareth Hopkins ddiwrnod gwych gyda stiwdios y BBC yng Nghaerdydd yn eu Gweithdy Actio Sioeau Sebon.

Mae Richard Newnham, Lindsay Spellman, Gareth John a Matthew Mullins wedi bod yn teithio yn Housemates, sydd hefyd wedi cynnwys 20+ arall o’n hactorion yn y cast cymunedol. Maen nhw wedi perfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Disgrifiodd adolygiad diweddar yn yr Observer o Housemates y “superb performances” gan y cast a sôn am “determined Alan” Gareth, sydd gyda Jim Peter Mooney, â chysylltiad sy’n “radiates from the stage”.
Aeth Matthew Davison, Tommy Rhys-Powell a Ffion Gwyther â’r sioe theatr stryd Enter the Robots i Bishkek, Kyrgyzstan, lle buon nhw’n perfformio i gynulleidfa o gynrychiolwyr, dan wahoddiad Llysgenhadaeth Prydain yn Krygyzstan. Fe wnaethon nhw hefyd berfformio i’r cyhoedd yn y brifddinas mewn canolfan siopa brysur.
Yn ychwanegol at y swyddi hyn, cafodd actorion Hijinx fwy na 30 o glyweliadau ym mis Mawrth a llwyddo i drefnu 7 swydd arall ar gyfer wythnos gyntaf Ebrill. Da iawn pawb!
Edrychwch ar ein llwyfan gastio, www.hijinxactors.co.uk a gallwch ddod o hyd i’n hactorion ar Spotlight.
Mae arnom angen paned o de a gorwedd i lawr ar ôl hyn i gyd!
