KJ Pluem.
Fy enw yw Pluem, ac rwy’n dod o Wlad Thai. Mae fy mam yn athrawes arlunio.
Rwy’n arlunydd hunan-ddysgedig ac yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac yn astudio darlunio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwy’n arbenigo mewn techneg cyfryngau cymysg. Rwyf wedi bod yn derbyn gwahanol gomisiynau, yn creu cynnwys Youtube a chreu casgliadau NFT i ennill bywoliaeth ers rhai blynyddoedd bellach. Roeddwn yn falch i dreulio fy nyddiau yn gwneud yr hyn yr wyf yn ei fwynhau fwyaf. Rwyf wedi bod yn ymwneud â lluniadu ers yr oeddwn yn fychan hyd heddiw. Ac rwyf wedi profi i fy nheulu bod celf yn rhywbeth yr wyf yn ei garu ac yn teimlo’n angerddol yn ei gylch.
Instagram:Â @kjpluemmini