Mae Housemates yn dychwelyd yng ngwanwyn 2027 – manylion y daith i’w cyhoeddi’n fuan. Dilynwch @hijinxtheatre am y diweddariadau diweddaraf.
Roc a rôl a chwyldro yng Nghaerdydd y 70au.
Yn ôl oherwydd ei phoblogrwydd.
Mae’r amps ymlaen. Mae’r fan wedi ei phacio. Mae’r band yn dod yn ôl at ei gilydd! Yn dilyn canmoliaeth gan y beirniaid a’r torfeydd yn codi ar eu traed, mae Housemates yn ôl ar y ffordd eto.
“A dynamic rock’n’roll riff on a global gamechanger in neurodivergent care.” ★★★★★
The Observer
Stori fyrlymus am gyfeillgarwch, gwrthryfela ac arbrawf chwyldroadol a newidiodd y byd. Mae Housemates yn ddrama lawn llawenydd, ddoniol ac emosiynol sy’n llawn o glasuron y 70au yn cael eu perfformio gan fand byw.
Yn yr 1970au cyrhaeddodd Alan, dyn ifanc a aned gyda Syndrom Down, fywyd myfyriwr prifysgol, Jim. Roedd Alan wedi byw yn Ysbyty Trelái ers ei blentyndod. Y cyfan oedd ganddo ei eisiau oedd byw mewn tŷ a bod mewn band. Roedd Jim am wneud gwahaniaeth yn y byd, ond nid oedd yn gwybod sut eto.
Ynghyd â’u ffrindiau, fe wnaethant gychwyn ar arbrawf oedd yn herio’r system ac a wnaeth helpu i danio’r symudiad oddi wrth ofal sefydliadol tuag at Fyw â Chymorth. Daeth yr hyn gychwynnodd fel gweithred o gyfeillgarwch yn drobwynt byd-eang o ran hawliau’r anabl, gan drawsnewid bywydau a newid y ffordd yr oedd cymdeithas yn meddwl am annibyniaeth, dewis a pherthyn.
Yn cael ei pherfformio gan gast o gerddorion-actorion niwrowahanol a niwronodweddiadol, mae Housemates yn ddathliad cyffrous o ddewrder, cymuned a’r bobl gyffredin wnaeth newid hanes. Yn llawn calon, hiwmor ac ysbryd roc a rôl, peidiwch â cholli dychweliad un o’r profiadau theatr y bu mwyaf o sôn amdano.
Ysgrifenwyd gan Tim Green.
Cyfarwyddwyd gan Ben Pettitt-Wade a Joe Murphy.
Mae Housemates yn gyd-gynhyrchiad gan Hijinx a Theatr Sherman.
Cefnogir Housemates gan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council of England ac Ymddiriedolaeth Innovate.
Adolygiadau.
★★★★★ The Stage
★★★★★ The Observer
★★★★★ The Morning Star
★★★★★ Buzz
★★★★★ Get the Chance
★★★★★ The Reviews Hub
★★★★★ Theatre and Tonic
★★★★ The Guardian

An astounding story, entertainingly and movingly realised.
Arifa Akbar, The Guardian
…this invigorating testament to the value of challenging the status quo and fighting for the rights of the unjustly marginalised, is also a rollicking evening’s entertainment.
Ben Woolhead, Buzz
A gloriously uplifting play, in a production that radiates warmth, wit and humanity.
Nicholas Davies, The Stage
Trelar.
Cyfweliadau Cast a Thîm Creadigol.
Y Cast.
Emily Ivana Hawkins
(Sally)
Lindsay Spellman
(Heather)
James Ifan
(Birch)
Gareth John
(Alan)
Caitlin Lavagna
(Sian)
Peter Mooney
(Jim)
Matthew Mullins
(John)
Richard Newnham
(Dr Cooper)
Eve Tudball
(Julie)
Tîm Creadigol.
Tim Green
Ysgrifenydd
Joe Murphy
Cyfarwyddwr
Ben Petitt-Wade
Cyfarwyddwr
Carl Davies
Dylunydd
Tic Ashfield
Trefnydd a Chynllunydd Sain
James Ifan
Cyfarwyddwr Cerddorol
Chris Laurich
Peiriannydd Sain
Rachel Mortimer
Dylunydd Goleuo