Theatr, Dawns, Comedi, Cabare, Ffilm a Theatr Stryd Naid Arloesol
16 Mehefin - 2 Gorffennaf 2022
Caerdydd – Bangor – Llanelli – Ar-lein
Gŵyl Undod Hijinx yw un o’r gwyliau celfyddydau anabledd cynhwysol mwyaf yn Ewrop a’r unig un o’i bath yng Nghymru. Rydym wedi aros yn hir iddi ddychwelyd, ac i ddathlu ei 10 fed flwyddyn, mae rhaglen lawn wedi’i threfnu i gyfareddu cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt!
Mae Gŵyl Undod, a gyflwynir i chi gan Hijinx, un o’r cwmnïau theatr gynhwysol mwyaf blaenllaw yn Ewrop, yn cynnig rhaglen amrywiol sy’n llawn dros 100 o ddigwyddiadau ar draws 17 diwrnod a fydd yn rhychwantu Caerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru, Porters, Chapter a'r Aes), Bangor (Pontio) a Llanelli (Ffwrnes) o 16 Mehefin tan 2 Gorffennaf 2022. Bydd nifer o berfformiadau ar gael i’w mwynhau trwy ffrwd fyw neu ar gais trwy blatfform digidol newydd o’r enw Hijinx Mobile, mewn partneriaeth ag Escena Mobile o Sbaen, a fydd ar gael trwy wefan Hijinx.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Hijinx a churadur Gŵyl Undod, Ben Pettitt-Wade:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ail-lansio Gŵyl Undod yng Nghymru eleni ar ôl bwlch o bum mlynedd, a byddwn yn dychwelyd yn well nag erioed! Byddwch yn barod am lawer o theatr, dawns, comedi, ffilm a theatr stryd naid cyffrous, a chynhyrchiad hybrid newydd. Bydd yn arddangosiad rhyfeddol o gelf ragorol o bob math gan berfformwyr ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth a bydd yn cynnwys actiau o Gymru, y Deyrnas Unedig, bob rhan o Ewrop a thu hwnt.”
Dywedodd Artist Cyswllt Hijinx, Richard Newnham:
“Rwy’n credu bod Gŵyl Undod yn gweithio oherwydd ei bod yn arddangos y dalent aruthrol efallai na fyddai’r cyhoedd yn ymwybodol ohoni fel arall. Dyma gyfle perffaith i weld amrywiaeth eang o actorion, digrifwyr a dawnswyr dawnus ar lefel mor amrywiol a rhyngwladol.”
Unwaith eto, bydd Gŵyl Undod yn dwyn ynghyd rai o’r enghreifftiau gorau o gelfyddydau a theatr anabledd a chynhwysol o bob rhan o’r byd i’w harddangos yma yng Nghymru, gan gynnwys About Face, Avant Cymru gydag Ill-Abilities, Cheryl Beer, Compagnie DK-BEL, Danza Mobile, Drag Syndrome, House of Deviant, Kitsch n Sync, l'Oiseau-Mouche, Mind The Gap, Ramshacklicious, Solidarity of Hope Collective, Splatch Arts, Stop Gap, Taking Flight a tanzbar_bremen. Bydd cynyrchiadau Hijinx ei hun, sef Rock Cliché, Grumpy Unicorns, The Astronauts, yn ymddangos ochr yn ochr â rhai perfformiadau newydd cyffrous gan grwpiau Academi Hijinx a PAWB. Bydd ail gyfle i weld profiad theatr hybrid newydd sbon Hijinx, the_crash.test, yn dilyn y perfformiad cyntaf ohono ym mis Mai, a bydd cymysgedd o ddigwyddiadau am ddim, gyda thocyn ac ar-lein i’w profi, gan sicrhau bod pobl yn gallu cymryd rhan yn yr hwyl wyneb yn wyneb, yn ogystal â gartref, ar draws y byd.
Esboniodd Ben Pettitt-Wade:
“Bydd y platfform digidol yn cynnwys rhaglen o gynnwys wedi’i recordio ac a fydd yn cael ei ffrydio’n fyw o’n Gŵyl Undod Hijinx ni a Gŵyl Escena Mobile yn Seville. Ond bydd yn fwy na lle i weld gwaith y ddwy ŵyl, bydd hefyd yn rhwydwaith a fydd yn galluogi cynulleidfaoedd i wneud sylwadau a rhyngweithio â’i gilydd a’r artistiaid sy’n cymryd rhan. Mae’n rhywbeth cwbl newydd i’n digwyddiad ni ac rydym yn gyffrous iawn i rannu blas ar ein gwyliau gyda chynulleidfaoedd newydd a chreu opsiwn hygyrch i bobl efallai na allant fod yn bresennol wyneb yn wyneb.”
Bydd yr ŵyl yn dechrau yng Nghaerdydd o 16 - 26 Mehefin cyn teithio i Bontio ym Mangor ar 28 - 29 Mehefin, ac yna Ffwrnes yn Llanelli ar 1-2 Gorffennaf, a bydd rhaglen arbennig o ddigwyddiadau lloeren ym mhob lleoliad.
Bydd yr ŵyl yn agor yn afieithus ar 16 Mehefin gyda Noson Gomedi newydd sbon yn Porters, Caerdydd. Bydd y noson, a drefnwyd gan Artist Cyswllt Hijinx, Richard Newnham, yn cynnwys Dan Mitchell o Gymru (“Wirioneddol wych” Ross Noble) yn ogystal â Juliana Heng (Malaysia), Sha Rita (Unol Daleithiau America) a Chiron Barron (Canada).
Yna, bydd yr hwyl yn symud i Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ar gyfer Gŵyl Ffilmiau gyntaf Gŵyl Undod rhwng 20 a 21 Mehefin. Bydd yr ‘ŵyl o fewn gŵyl’ hon yn arddangos rhai o’r enghreifftiau diweddar gorau o waith ffilm cynhwysol o Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, a bydd yn cynnwys cymysgedd o ffilmiau hyd llawn, ffilmiau byr, dangosiadau cyntaf, trafodaethau panel a mwy. Bydd fersiynau teithiol o’r Ŵyl Ffilmiau yn ymweld â Bangor a Llanelli hefyd. Cyhoeddir yr amserlen lawn o ffilmiau a digwyddiadau yn ddiweddarach ym mis Mai.
Rhwng 22 a 26 Mehefin, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal digwyddiadau am ddim yn y Lanfa, gan gynnwys cynhyrchiad newydd gydag Academïau Hijinx a chydweithfa Kitsch n Sync sy’n cynnwys llygod bochog dynol a pheli zorb! Bydd digwyddiadau â thocyn yn cael eu cynnal yn Stiwdio Weston, gan gynnwys dychweliad hir-ddisgwyliedig Danza Mobile, sef un o’r cwmnïau dawns cynhwysol mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, a fydd yn edrych ar yr hyn sy’n ein gyrru ni mewn ffordd chwareus yn El festín de los cuerpos.
Bydd hefyd ddarn cythryblus, pynciol, a gwleidyddol gan Gwmni Dawns Vero Cendoya, y mae eu hepig ddawns-theatr gymhellol BOGUMER (or Children of Lunacharsky) sydd wedi’i gosod ym Moscow ym 1919 yn archwilio dynameg pŵer.
Mae gwaith diweddaraf Hijinx, the_crash.test, yn ddarn doniol, pryfoclyd a gweledol drwythol wedi’i osod yn y dyfodol agos. Gan gynnwys pypedwaith cipio symudiad, tafluniad ar raddfa fawr a chyfansoddiad gwreiddiol, mae the_crash.test yn cyflwyno cast cynhwysol o berfformwyr ar y llwyfan a thrwy gyswllt fideo, ar gyfer cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Bydd diweddglo’r perfformiadau yng Nghaerdydd yn cyd-ddigwydd â diwedd Wythnos Anabledd Dysgu Mencap, felly bydd Hijinx yn ymuno â Mencap Cymru i gyflwyno Drag Syndrome (a ffrindiau), y criw drag arloesol mawr ei glod yn rhyngwladol sy’n cynnwys Breninesau a Brenhinoedd drag â syndrom Down a fydd yn gwneud i chi ysu am fwy. Bydd House of Deviant Caerdydd yn cefnogi’r perfformiad hwn.
Ddydd Sadwrn 25 Mehefin, bydd theatr stryd naid am ddim yn yr heulwen braf (gobeithio!) ar yr Aes. Mae’r artistiaid sydd wedi’u cadarnhau hyd yma yn cynnwys Rock Cliché, The Astronauts a Grumpy Unicorns o Hijinx; Mind the Gap, About Face, Avant Cymru, tanzbar_bremen a Danza Mobile.
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru a Hijinx hefyd wedi comisiynu darn newydd o gelf anabledd i’w pherfformio yn rhan o Ŵyl Undod. Ar ôl derbyn sawl cynnig o ansawdd uchel, mae Hijinx yn falch iawn o gyhoeddi bod Solidarity of Hope wedi cael eu dewis, ac maen nhw’n awyddus iawn i weld beth fydd Solidarity of Hope yn ei greu. Dan arweiniad Rachel Gadsden a Helen Roeten, bydd y prosiect yn ymgysylltu â 10 artist anabl o Gymru i greu digwyddiad a fydd yn rhan o raglen Hijinx yn Llanelli ac ar-lein.
Bydd mwy o actiau ac artistiaid a’r amserlen lawn ar gyfer pob lleoliad yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.hijinx.org.uk/cy/gwyl-undod-2022
@hijinxtheatre #Unity10