“I’ve fully enjoyed myself” – Lucy White, aelod o’r panel
Panel Hijinx.
Crëwyd Panel Hijinx yn 2021 fel cyfle i actorion ein Hacademi fynegi eu syniadau am hyfforddiant yr Academi, ac i gael mwy o ddealltwriaeth o bopeth arall sy’n mynd ymlaen yn Hijinx.Â
Mae’r Panel yn cynnwys saith o actorion yr Academi. Mae cyfarfodydd Panel Hijinx yn cael eu cynnal unwaith y mis dros Zoom, wedi eu harwain a’u hwyluso gan ein Hartist Cysylltiol, Richard Newnham.Â
Yn ystod y sesiynau mae’r panel yn cyfarfod aelodau o dîm prif swyddfa Hijinx i gynyddu eu dealltwriaeth o rannau gwahanol o’r cwmni, ac i gynnig adborth a syniadau. Yn ystod y flwyddyn maent wedi cyfarfod yr holl adrannau gwahanol, yn ogystal â chynnig barn ar y rhaglenni a’r marchnata ar gyfer Gŵyl Undod.Â
Ar ôl y cyfarfodydd, mae aelodau’r panel yn mynd yn ôl i grwpiau’r Academi ac esbonio beth drafodwyd.Â
It's all about leaning about all of the different houses of Hijinx, like PAWB and Hijinx Academy, casting and freelancers; my experience of the panel is that it's great meeting people on Zoom.
Andrew Tadd
Being on the panel has gone really well and I’ve fully enjoyed myself; thank you for having me and I hope to continue to be part of the family.
Lucy White