Dydd Gwener 8 Tachwedd.
Mae Gŵyl Ffilm Undod yn cyflwyno detholiad cyffrous, amrywiol o ffilmiau hir a byr wedi eu creu gan a gyda phobl greadigol ac actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, ochr yn ochr â sesiynau cwestiwn ac ateb a thrafodaethau panel.
Gweler rhaglen dydd Gwener isod. Gallwch archebu tocynnau i ddangosiadau unigol am £8 / £5.
Neu drwy docyn diwrnod am £25 / £17.50. Mae prynu tocyn diwrnod yn caniatáu ichi gael mynediad i bob dangosiad ar eich diwrnod dewisol am bris gostyngol iawn.
Sesiwn Ffilm Hir 1.
11am – 12.30pm
Autisme: Le Petit Chasseur de Fantômes
Mae Tom yn 12 oed, awtistig, ac yn benderfynol o hela ysbrydion pan fydd yn oedolyn. Mae ei dad yn ystyried beth all y byd ei gynnig iddo, felly mae’n cychwyn ar daith i gyfarfod oedolion awtistig o gwmpas y byd a dysgu am eu bywydau. Rhaglen ddogfen hyfryd, ddidwyll ac agos atoch o Ffrainc.
Ffrainc / 2021 / cynghorir 12A / 58 mun / Mickey Mahut
Hefyd y ffilmiau byr:
Heavy Metal is for Life
Cymru / 2023 / cynghorir U / 3 munud / Jacques Colgate
Rhybudd cynnwys: rhai delweddau fflachio byr. Fel rhan o brosiect Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Jacques yn datgelu’r pethau yn ei fywyd sy’n ei wneud yn hapus, y bobl sy’n amlwg yn ei fywyd, a’r gerddoriaeth sy’n ei yrru ymlaen.
The Matthew Purnell Show
Cymru | 2020 | PG | 24 munud| Daniel McGowan
Cyfle arall i weld comedi fywiog Hijinx, wedi ei gosod tu ôl i lenni sioe deledu ffuglennol, lle mae popeth yn mynd o chwith a Zoe y rhedwr a Hannah’r cynhyrchydd sy’n gorfod ceisio datrys pethau.

Digwyddiad i’r Diwydiant – Pa Mor Bell Ydyn Ni Wedi Dod?.
2.30pm – 3.30pm
7 blynedd yn ôl lansiodd Hijinx ei 7 Safon Castio ar gyfer diwydiannau’r sgrin yn ymwneud ag arferion castio cynhwysol.
Ers hynny gwelwyd nifer o lwyddiannau trawiadol: Craith/Hidden yma yng Nghymru, Ralph & Katie yn ffilmio yn Lloegr… ond a ddylai’r diwydiant fod wedi symud ymhellach? A yw’r 7 Safon Castio yn dal yn berthnasol? A ddylen nhw gael eu hatgyfnerthu, eu newid neu eu taflu o’r neilltu?
Ymunwch â ni wrth i ni drafod y dirwedd hygyrchedd yn y byd teledu a ffilm, ailedrych ar yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac edrych tua’r dyfodol, gyda phanelwyr gwadd o gynhyrchwyr i gyfarwyddwyr, cyllidwyr i awduron, a chlipiau o brosiectau sydd ar y gweill.

Sesiwn Ffilm Hir 2.
3.45pm – 5.45pm
Dwy Ffilm gan Otto Baxter
Mae’r ffilm fer gyntaf erioed i gael ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan rywun â Syndrom Down – Otto Baxter talentog iawn – The Puppet Asylum yn cyfuno arswyd, comedi dywyll a thrac sain effeithiol a phyped taflwr llais aflednais ei iaith. Stori macâbr plentyn sy’n cael ei gamddeall ar lwybr i reoli ei fywyd ei hun, a gyda The Puppet Asylum mae’r rhaglen ddogfen sydd wedi ennill llu o wobrau i Otto Baxter: Not A F***ing Horror Story, sy’n olrhain y broses o ddwyn gweledigaeth Otto yn fyw, a’r problemau ar hyd y ffordd.
Rhybudd am y cynnwys: iaith gref a rhai delweddau graffig.
Not a F***ing Horror Story
DU / 2023 / 15 / 1awr 24 munud / Peter Beard a Bruce Fletcher
The Puppet AsylumÂ
DU / 2023 / 15 / 28 munud / Otto Baxter

Sesiwn Ffilmiau Byr 1.
6pm – 7pm
Bydd comedi, drama, rhaglen ddogfen ac arswyd yn cyfuno yn y sesiwn gyntaf o ffilmiau byr, gyda ffilmiau o Gymru, Awstralia, Gwlad Belg a Lloegr. Rhybudd am y cynnwys: iaith gref iawn a therminoleg all beri tramgwydd. Bydd sesiwn holi-ac-ateb byr ar ôl y ffilmiau.
Glitch
Cymru / 2022 / cynghorir 15 / 14 munud / Daniel McGowan
Rhybudd am y cynnwys: peth iaith gref. Pan fydd llwybrydd newydd yn cyrraedd, mae Tom yn meddwl bod ei broblemau wifi yn ystod y cyfnod clo ar ben, ond dim ond dechrau mae ei drafferthion…
Downside Up
Gwlad Belg / 2016 / cynghorir PG / 15 munud / Peter Ghesquiere
Mae Downside Up yn datgelu byd lle mae gan bawb Syndrom Down. Un dydd mae Eric yn cael ei eni, bachgen sy’n wahanol. Ffilm fer sydd wedi ennill llu o wobrau o Wlad Belg.
On Happiness
Cymru / 2023 / cynghorir U / 3 munud / Bethany Freeman
Mae’r actor a’r ddawnswraig Bethany Freeman yn archwilio’r pethau sy’n dod â llawenydd i’w bywyd, a sut y mae’n dod o hyd i’w hapusrwydd. Rhaglen ddogfen a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ratbag
Awstralia / 2022 / cynghorir 12A / 9 munud / Andrew Kavanagh
Rhybudd am y cynnwys: peth iaith gref. Mae Kyle, sy’n creu helynt yn yr ysgol yn treulio diwrnod arall yn gorfod aros i mewn yn aros am gerydd gan y prifathro di-ddal. Gydag un weithred olaf wrthryfelgar, a all Kyle gael y gorau ar bawb?
Joy Uncensored
DU / 2024 / cynghorir 18 / 16 munud / Natasha Hawthornethwaite
Rhybudd am y cynnwys: iaith gref iawn a therminoleg all beri tramgwydd gwahaniaethol. Ar ôl 64 mlynedd o fyw bywyd yn dawel, mae athrawes ysgol sydd wedi ymddeol, Joy France, ar ymgyrch i gael ei chlywed. A fydd yn gallu torri trwy stereoteipiau o ran rhyw ac oedran, trwy gystadlu, ym myd caled, ieuanc, llawn dynion brwydrau rapio? Neu a yw hi’n rhy amlwg yn H.E.N?

Sesiwn Ffilm Hir 3.
8pm – 10pm
Champions
Mae cyn hyfforddwr pêl fasged o’r cynghreiriau is yn derbyn gorchymyn llys i reoli tîm o chwaraewyr ag anableddau dysgu. Er gwaethaf ei amheuon, mae’n sylweddoli’n fuan y gallan nhw fynd ymhellach nag y gwnaethon nhw erioed ddychmygu gyda’i gilydd. Comedi hynod ddoniol ac emosiynol gan Bobby Farrelly, gyda Woody Harrelson yn serennu a chriw bywiog iawn o actorion newydd.
UDA / 2022 / 15 / 124 munud / Bobby Farrelly

