Edrych yn ôl ar Ŵyl Undod 2024

Gŵyl Undod 2024.

Roedd Gŵyl Undod 2024 yn llwyddiant gwych! Diolch i bawb a ddaeth i weld perfformiad, i’r holl berfformwyr a chriwiau gwych, i’n cyllidwyr, ein cyflenwyr, ein lleoliadau a’n gwirfoddolwyr. Ni fyddai Gŵyl Undod yn bosibl heboch chi! Eleni cawsom artistiaid gwadd yn dod o Sbaen, yr Eidal, Brasil, Seland Newydd a mwy. Cynhaliwyd yr ŵyl yng Nghaerdydd rhwng 3 – 7 Gorffennaf, gyda rhaglenni lloeren yn cael eu cynnal ym Mangor (27 Mehefin) a Llanelli (29 Mehefin) hefyd.

Diolch i...

Diolch i Gyngor y Celfyddydau, Arts & Business Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter, Pontio, Ffwrnes a Grant Stephens Family Law, noddwr Caerdydd.

Perfformiadau am ddim.

Trwy gydol yr ŵyl eleni yng Nghaerdydd fe gafwyd rhaglen anhygoel o berfformiadau am ddim gan Chloe Loftus, Shedan Theater, Danza Mobile, Dança sem Fronteiras, Cía. Vero Cendoya, Ramshacklicious, EGO Arts, Organik Dantza, Blaumeier-Atelier, tanzbar_bremen a’n grwpiau theatr cymunedol Odyssey a Telemachus.

Perfformiadau â Thocynnau.

Cawsom hefyd raglen wych o ddigwyddiadau min nos â thocynnau. Skin, Muscle and Bone gan Chris Tally-Evans a Dança sêm Fronteiras, UNDRESSED gan tanzbar_bremen, CHOO CHOO! gan StammerMouth, C’est BEAU! gan Compagnie DK-BEL, Noson Gomedi Gŵyl Undod, House of Deviant: Untied a Pharti Gŵyl Undod gyda Vaguely Artistic. Cymysgedd o ddawns, theatr, comedi, drag a cherddoriaeth, roedd rhywbeth i bawb.

Ehangu Undod.

Eleni hefyd rhoddwyd lle i Ehangu Undod, arddangosfa am ddim o dri gwaith gan artistiaid a chrewyr anabl yn gweithio mewn technoleg ymdrochol, y gallai cynulleidfaoedd eu profi yn Bocs yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Rhaglenni Lloeren.

Aethom â fersiynau llai o Ŵyl Undod i Pontio ym Mangor a Ffwrnes yn Llanelli eto, gan drefnu rhestr wych o berfformiadau am ddim i’r cyhoedd ac i ysgolion.

Gŵyl Ffilm Undod.

Eleni cynhaliwyd Gŵyl Ffilmiau Undod ym mis Tachwedd. Darllenwch ragor am Ŵyl Ffilmiau Undod yma.

Gŵyl Ffilm Undod

Gweler y Rhaglen Lawn Isod.