Gŵyl Ffilm Undod 2024.
Cynhaliwyd yr ail Ŵyl Ffilm Undod ym mis Tachwedd eleni. Roeddem mor falch o’r ymateb i’r elfen newydd hon o Ŵyl Undod ac rydym am ddweud diolch yn fawr wrth bawb a ddaeth draw i’w chefnogi.
Gan ddod â’r ffilmiau cynhwysol gorau o bob rhan o’r byd i Chapter, Caerdydd, roedd yr ail Ŵyl Ffilm Undod yn orlawn o ffilmiau hir a byr cyffrous, oedd yn ysgogi’r meddwl ac yn unigryw. Gyda rhaglenni dogfen, animeiddio, dramâu, comedïau, gwyddonias, drama hanesyddol a phopeth yn y canol, roedd rhywbeth i bawb, gan gynnwys sesiwn arbennig i gynulleidfaoedd iau. Roedd pob ffilm a ddangoswyd wedi cael ei gwneud gan bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth neu gyda nhw ynddynt.
Roedd gŵyl ffilmiau eleni yn cynnwys dangosiad cyntaf y byd o’n ffilm ddogfen fer Lost & Found a wnaed mewn partneriaeth â Great Western Railway.
Roedd hefyd yn cynnwys dangosiad cyntaf Cymru o Shadow ffilm hir Back to Back Theatre.
Cawsom ymateb hyfryd am yr ŵyl eleni eto hefyd.
Cyfle rhagorol i ddod â’m teulu i weld ffilmiau byr hyfryd.
Aelod Cynulleidfa
Roedd y tair ffilm a wyliais yn ystod yr ŵyl yn hollol anhygoel a dwi’n teimlo fy mod i wedi siarad amdanyn nhw gyda phawb fydd yn gwrando! Symudol, pryfoclyd, doniol, diddorol, hollol wych!
Aelod Cynulleidfa
Wedi mwynhau; agoriad llygad mewn ffordd gadarnhaol.
Aelod Cynulleidfa