Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru 2020

LGIM a Hijinx yn ennill gwobr am hyfforddiant ‘gweithwyr agored i niwed’

Mae Arts & Business Cymru wedi dyfarnu Gwobr y Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr 2020 i Legal and General Investment Management, mewn partneriaeth â Hijinx, am eu rhaglen hyfforddiant cyfathrebu i reolwyr gweithwyr agored i niwed.

Mae Hijinx, o Gaerdydd, sy’n dewis pobl ag anableddau dysgu a/neu bobl niwrowahanol i actio yn eu holl gynyrchiadau, yn cynnig gweithdai chwarae rôl i roi’r hyder i reolwyr gyfathrebu ag amrywiaeth o weithwyr agored i niwed, a hynny wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy sianeli rhithwir eraill. Yn y rhaglen arloesol, mae actorion ag anableddau dysgu a/neu actorion niwrowahanol yn defnyddio senarios sy’n dangos amrywiaeth o heriau cyfathrebu, gan annog rheolwyr i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth ac empathi tuag at eu gweithwyr.

Mae’r actorion i gyd wedi cael eu hyfforddi’n broffesiynol yn Academïau Hijinx, y mae pump ohonynt ar draws Cymru. Mae’r gweithdai’n rhoi gwaith â thâl iddynt a chyfle i lywio amgylchedd gwaith gwell ar gyfer Legal and General Investment Management, eu rheolwyr, eu cydweithwyr ac, yn y pen draw, eu cwsmeriaid.  

Mae gan Richard Newnham, sy’n actor o Gaerffili, Syndrom Asperger. Mae wedi hyfforddi gyda Hijinx er 2012 ac mae hefyd yn gweithio erbyn hyn fel artist cyswllt iddynt, gan deithio’r byd gyda’r sioe arobryn, Meet Fred. Mae’n cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddiant cyfathrebu yn rheolaidd.

"Mae gweithle cefnogol yn gynhwysol, yn hygyrch, ac yn dangos dealltwriaeth tuag at eraill, p’un a ydynt yn weithwyr neu’n gwsmeriaid. Weithiau, mae rhywbeth mor syml ag osgoi jargon neu aralleirio cwestiwn neu frawddeg yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

Y ffordd bennaf mae’r gweithdai’n helpu yw trwy bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu a thrwy chwarae rôl yn rhyngweithiol ac yn hamddenol, gyda hynny yn ei dro’n golygu bod modd dysgu yn haws. Mae’n enghraifft berffaith o ddysgu trwy wneud.

Richard Newnham, Artist Cyswllt, Hijinx

Mae Prif Weithredwr Hijinx, Sarah Horner, yn gobeithio y bydd cwmnïau’n ystyried bod y rhaglen yn elfen hanfodol o ddatblygiad staff.

Mae ein hyfforddiant cyfathrebu busnes wedi dod yn ei flaen yn sylweddol ers iddo ddechrau. Dechreuom ni gyda’n hyfforddiant arobryn ar gwsmeriaid agored i niwed, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i gleientiaid, ac erbyn hyn rydym ni’n gallu cynnig y gallu i gwmnïau wella’u cyfathrebu â gweithwyr sy’n agored i niwed mewn rhyw ffordd.

Mae’r pandemig presennol wedi rhoi syniad i ni o sut beth yw bod yn agored i niwed a pha mor hawdd y gall hyn effeithio ar eich bywyd gwaith. Mae’r cwrs hwn, sy’n gallu cael ei gyflwyno’n rhithwir neu yn bersonol, yn gam arall yn ein cenhadaeth i sicrhau bod y gweithle’n gallu bod yn amgylchedd diogel a chefnogol i bobl y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, naill ai yn y tymor byr neu’r tymor hir.”

Sarah Horner, Prif Weithredwr, Hijinx
Llun gyda symbol gwobr, a'r geiriau Arts, Business & Employees Award.

Mae’r hyfforddiant gan Hijinx wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt i ni. Rydym ni’n gwybod bod ein holl gydweithwyr sy’n gweithio i Legal and General yn unigolion ac nad yw unrhyw ddau weithiwr yr un peth, felly roeddem eisiau rhoi cefnogaeth a hyfforddi ein rheolwyr i fod yn barod i arwain a rheoli’u timau sy’n cynnwys personoliaethau, cymhlethdodau a galluoedd amrywiol. Roedd yr ymarferion chwarae rôl yn ddifyr ac yn heriol iawn, a gwnaethant i ni wir feddwl sut i gefnogi ein cydweithwyr orau, o sefyllfaoedd pan fyddai’n rhaid i ni gynnal sgyrsiau anodd a rhoi adborth astrus, i gynnig cyngor ac anogaeth pan fydd cydweithiwr yn cael amser anodd.

Roedd yr hyn ddysgon ni wedi’n herio go iawn o ran sut rydym ni’n cyfathrebu ac yn rheoli ein timau, ac mae wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt gyda’r heriau eleni o ganlyniad i Covid-19 a’r cyfnodau clo dilynol; mae ein rheolwyr yn rheoli mewn ffyrdd gwahanol iawn ond hefyd yn rheoli nifer cynyddol o agweddau agored i niwed.  Rydym ni’n edrych ymlaen at gynnwys rhagor o ddysgu er mwyn creu amgylchedd a diwylliant mwy cynhwysol, agored a chefnogol i’n cydweithwyr.”

Paul Durkin, Pennaeth Profiad Pobl, Datblygiad ac Ansawdd, Legal and General Investment Management Operations

Cefnogwyd y bartneriaeth rhwng Legal & General a Hijinx trwy gyllid gan raglen CultureStep Arts & Business Cymru.

“Roeddem yn falch iawn o fuddsoddi yn y prosiect pwysig ac arloesol hwn, sydd wedi galluogi Hijinx a Legal & General i arloesi safon newydd o gynwysoldeb mewn gwaith Adnoddau Dynol.

Mae panel CultureStep yn canmol ansawdd uchel gwaith Hijinx yn gyson, a’r ffyrdd creadigol y mae’n bodloni anghenion amrywiol sefydliadau. Rydym wrth ein bodd o weld effaith y buddsoddiad cychwynnol hwn ac rydym yn ffyddiog y bydd gweithwyr a busnesau yn parhau i elwa o’r cwrs mewn ffyrdd parhaol a phendant.”

Rachel Jones, Prif Weithredwr, Arts & Business Cymru

Dylai unrhyw fusnes sy’n awyddus i gael hyfforddiant cyfathrebu gan Hijinx gysylltu â Susan Kingman. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Hyfforddiant Busnes.