Dysgu sgiliau bywyd hanfodol a hyder trwy ddrama, cerddoriaeth a symudiad.
Caiff dosbarthiadau’r Cyrsiau Sylfaen mewn Drama eu cynnal unwaith yr wythnos trwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu man hwyliog, cymdeithasol a hamddenol lle mae oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn dysgu sgiliau drama, cerddoriaeth a symud. Yn ogystal, bydd cyfranogwyr yn dysgu ystod o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys cyfathrebu a gwaith tîm.
Rydym wedi cyffroi o gael cyhoeddi y bydd ein grŵp Sylfaen Drama newydd yng Ngogledd Cymru yn dechrau cyn bo hir!
Ymunwch â ni am ein diwrnod blasu am ddim ddydd Iau 4 Rhagfyr yn Theatr Clwyd.
Amser: 10am – 3.30pm
Dyddiad: Dydd Iau 4 Rhagfyr
Lleoliad: Theatr Clwyd, Raikes Lane, Yr Wyddgrug, CH7 1YA
Oed: 18+
Mae’r diwrnod blasu wedi’i gynllunio i gynnig profiad i chi o sut beth yw diwrnod yn Sylfaen Drama.