Galw ar Artistiaid Llawrydd

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol theatr, creadigol neu yn y celfyddydau perfformio sy’n gweithio yng ngogledd Cymru?.

Mae Hijinx yn chwilio am diwtoriaid a hwyluswyr i helpu cyflwyno ei hyfforddiant drama proffesiynol arobryn i berfformwyr awtistig ac/neu ag anableddau dysgu. Os yw hyn yn swnio’n debyg i chi, daliwch ati i ddarllen...

Mae Hijinx, sef cwmni theatr proffesiynol nid-er-elw, yn cynnig rolau i actorion ag anableddau dysgu mewn cynyrchiadau arobryn sy’n teithio o amgylch y byd. Mae gennym rwydwaith o 60+ o actorion hyfforddedig ynghyd â thros 70 o gyfranogwyr cymunedol ledled Cymru sydd ag anableddau dysgu a datblygiadol, gan gynnwys syndrom Down, awtistiaeth a syndrom Asperger.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’n cronfa o Diwtoriaid a Hwyluswyr Cynorthwyol llawrydd yn Hijinx, sef un o’r gwneuthurwyr theatr a darparwyr hyfforddiant perfformio cynhwysol mwyaf blaenllaw yn y DU i actorion ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth. 

Cysylltwch ag sophia.karpaty@hijinx.org.uk am fwy o wybodaeth.