Folk yn llunio partneriaeth â’r cwmni theatr cynhwysol Hijinx i ddwyn cynrychiolaeth i’r diwydiant cyfathrebu
Mae’r asiantaeth gyfathrebu greadigol Folk wedi ffurfio partneriaeth gyda’r cwmni theatr cynhwysol amlwg trwy’r byd Hijinx i ddwyn mwy o amrywiaeth i’r diwydiant marchnata a chyfathrebu. Mae Hijinx yn creu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth trwy gynyrchiadau theatr a ffilm. Nod y rhain yw drysu disgwyliadau a herio amgyffrediad pobl o anabledd dysgu.
Bydd nawdd ariannol Folk yn mynd tuag at gefnogi rhedeg Hijinx sy’n darparu hyfforddiant perfformio proffesiynol i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a’u cefnogi i gael swyddi mewn theatr a ffilm. Mae’r bartneriaeth yn dangos ymrwymiad Folk i wella cynrychiolaeth pobl anabl yn y cyfryngau a marchnata.
Dywed Sharon Flaherty, Prif Swyddog Gweithredol Folk:
“Wedi ei seilio ar fy nghred bendant bod pob llais yn bwysig, cenhadaeth Folk yw sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael eu clywed, eu cynrychioli, gwerthfawrogi, a’u grymuso. Credaf bod y bartneriaeth hon gyda Theatr Hijinx yn mynd i’n helpu i wella pa mor weladwy yw grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar y sgrin a fydd yn cadw’r momentwm ar normaleiddio gwahaniaeth i fynd a sicrhau bod y neges am bwysigrwydd cynrychiolaeth i bawb yn y diwydiannau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu yn cyrraedd y nod."
Rhoddwyd yr enw newydd i Folk, o Gaerdydd, ym mis Tachwedd, BrandContent oedd yr enw blaenorol, a lansiwyd gan Sharon Flaherty yn 2014. Mae Folk wedi ymrwymo i greu ymgyrchoedd marchnata cynhwysol a helpu cleientiaid i gael cynrychiolaeth a bod yn gynhwysol.
Mae Hijinx yn rhedeg pum Academi hyfforddi i roi hyfforddiant perfformio proffesiynol i 70 o actorion talentog sydd ag awtistiaeth ac anableddau dysgu eraill, gan roi’r sgiliau sydd arnynt eu hangen i ddod yn berfformwyr proffesiynol iddynt.
Meddai Sarah Horner, Prif Swyddog Gweithredol Hijinx:
“Yn Hijinx rydym bob amser yn gyffrous o lunio cysylltiadau â sefydliadau sy’n ymroddedig i fynediad a chynhwysiant i bawb. Trwy weithio gyda’i gilydd mae gan Hijinx a Folk gyfle unigryw i fod yn sail i waith ei gilydd, gan greu dealltwriaeth a sefydlu newid gwirioneddol yn y diwydiant hysbysebu a marchnata, gan sicrhau bod y gynrychiolaeth i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn ddilys, a bod lleisiau’n cael eu cryfhau a’u clywed. Fel elusen, mae cefnogaeth gan gwmnïau fel Folk yn amhrisiadwy wrth ein helpu i barhau ein gwaith i arloesi, cynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd proffesiynol a chyfranogol yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistig. Rydym yn hynod o ddiolchgar am eu nawdd yn y cyfnod heriol hwn, bydd yn cael effaith gwirioneddol.”
Mae cynyrchiadau amlwg Hijinx yn cynnwys Meet Fred, Into the Light and Metamorphosis, sydd wedi teithio’r byd i dros 35 o wledydd yn y blynyddoedd diwethaf. Ac mae ei actorion wedi mynd ymlaen i ymddangos ar Casualty y BBC, a Severn Screen i S4C a chyfres olaf BBC Cymru o Craith/Hidden.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Fiona Magill Fiona@persuasioncomms.com
Am Folk
Asiantaeth yng Nghaerdydd yw Folk (BrandContent gynt) sydd ar ymgyrch i wneud cynrychiolaeth gynhwysol yn norm i bob cyfathrebu. Mae’r asiantaeth yn gweithio’n genedlaethol a rhyngwladol gyda brandiau cyfarwydd mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys gwasanaethau ariannol, addysg, technoleg a’r sector cyhoeddus gyda’r cleientiaid yn cynnwys Admiral sydd ar y FTSE 100, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Llywodraeth Cymru. Mae’n un o aelodau cyntaf y grŵp amrywiaeth a chynhwysiant CMA, yn gyflogwr hyderus am anabledd, yn bartner Whiz Kids ac yn aelod o’r cynllun ‘climate perks’. Fe’i henwyd yn Asiantaeth Fechan Orau yn y Gwobrau Marchnata Cynnwys Rhyngwladol yn 2018, 2019, 2020, 2021 a 2022.