Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mewn partneriaeth â Hijinx, yn lansio cyfres o ffilmiau hyfforddiant newydd i gynorthwyo cleifion a staff ag anableddau dysgu.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Hijinx yn lansio cyfres newydd o fideos hyfforddiant ar-lein i helpu i hyfforddi staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyfathrebu’n effeithiol â phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, a’u cefnogi, a gofalu amdanynt yn briodol. Bydd y fideos yn cael eu rhannu mewn dangosiad rhithwir a gweminar ar 27 Ionawr 2021. Yn dilyn hynny, bydd y ffilmiau llawn ar-lein i unrhyw un gael mynediad iddynt.
Gyda chyllid gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chelfyddydau a Busnes Cymru, mae’r Bwrdd Iechyd wedi gallu comisiynu Hijinx i ddatblygu cyfres o ffilmiau byr a ffilmiwyd ar leoliad yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae Hijinx yn un o brif gwmnïau theatr cynhwysol Ewrop, sy’n ymdrechu dros gydraddoldeb trwy wneud celf ragorol gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ar y llwyfan, ar y sgrin, ar y stryd, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i Gymru ac i’r byd.
Mae’r ffilmiau hyfforddiant yn ymdrin â nifer o bynciau a amlygwyd fel meysydd pryder penodol o fewn y Bwrdd Iechyd, megis cyfathrebu, trin rhwymedd, a gwneud arsylwadau. Ychydig flynyddoedd yn ôl, canfu astudiaeth annibynnol a gynhaliwyd gan brosiect Gwella Iechyd a Bywydau yr Arsyllfa Anableddau Dysgu fod tua 1,200 o bobl ag anableddau dysgu yn marw bob blwyddyn o achosion y gellir eu hosgoi tra eu bod yng ngofal y GIG.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn gwneud llawer i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb amlwg yn y gofal a’r driniaeth y mae pobl ag anableddau dysgu wedi’u derbyn yn hanesyddol, a gall o bosibl achub bywydau rhai cleifion.
Mae’r ffilmiau hyfforddiant, sy’n cynnwys pedwar o actorion Hijinx, yn addysgiadol ac yn ddifyr iawn hefyd, gyda brand hiwmor a chalon Hijinx wrth wraidd. Byddant ar gael i’w gwylio gan staff ledled y GIG, yn ogystal â phobl sydd eisiau datblygu eu hyfforddiant anabledd ar-lein am ddim.
Dywedodd Andy Jones, sy’n Nyrs Arwain ar gyfer Llawfeddygaeth, Wroleg, Offthalmoleg, Clust, Trwyn a Gwddf, Gwasanaethau Deintyddol, a Gwella Clwyfau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Sarah Horner, Prif Weithredwr Theatr Hijinx, y canlynol:
Mae'n cyffrous iawn i mi y bydd y ffilmiau hyfforddiant hyn yn cael eu rhyddhau a'u defnyddio i hyrwyddo gwelliannau mewn ymarfer ym maes gofalu am gleifion ag anabledd dysgu.
Ceir cydnabyddiaeth eang bod anghydraddoldebau yn narpariaeth gofal iechyd i’r grŵp hwn o’n poblogaeth, sy’n agored i niwed.
Llywiwyd y ffilmiau hyn gan ganfyddiadau adroddiad LeDer ar gyfer y GIG yn Lloegr, ac ategwyd hyn gan actorion o Gwmni Theatr Hijinx sydd ag anabledd dysgu ac sydd eu hunain wedi profi anawsterau o ran cael y gofal a’r cymorth y mae ganddynt hawl iddynt.
Nod y prosiect oedd cael ffilmiau sy’n herio ac yn ysgogi cynulleidfaoedd i drafod y problemau, y rhwystrau a’r heriau cyffredin y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y ffilmiau hyn yn hwyluso trafodaethau dysgu, fel y gellir gwneud addasiadau rhesymol i arferion, gan oresgyn cysgodi diagnostig a chadw pobl yn ddiogel.
Andy Jones, Nyrs Arwain ar gyfer Llawfeddygaeth, Wroleg, Offthalmoleg, Clust, Trwyn a Gwddf, Gwasanaethau Deintyddol, a Gwella Clwyfau, Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Mae’n wych gweld y ffilmiau hyn yn cael eu rhannu i gefnogi hyfforddiant mewn maes mor hanfodol. Rydym yn falch ein bod wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddatblygu’r adnoddau hyn a galluogi profiadau ymarferol actorion Hijinx i fod mor ganolog i’w creu. Gobeithiwn y gallant gael effaith wirioneddol ar ansawdd y gofal a dderbynnir gan gleifion ag anabledd dysgu.
Sarah Horner, Prif Weithredwr Theatr Hijinx
Ar 27 Ionawr 2021, bydd y fideos yn cael eu lansio mewn dangosiad rhithwir gyda mynychwyr o’r GIG, y llywodraeth, y sector iechyd a’r sector busnes. Dilynir y digwyddiad gan drafodaeth fer trwy gyfrwng gweminar. Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael trwy Eventbrite ar gyfer dangosiad rhithwir y ffilmiau. Bydd pob un o’r fideos ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o 28 Ionawr 2021.
Dylai unrhyw fusnes sy’n awyddus i gael hyfforddiant cyfathrebu gan Hijinx gysylltu â Susan Kingman. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Hyfforddiant Busnes.