Heriol iawn, yw'r geiriau sy'n codi dro ar ôl tro i ddisgrifio'r 18 mis diwethaf. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni i gyd yn eitha blinedig ac rwy'n cyfaddef nad dyna sut y dychmygais fy nwy flynedd gyntaf yn Hijinx...
Ond ychydig wythnosau’n ôl, wrth eistedd mewn bws mini yn ddiogel allan o olwg pawb wrth i ni wneud ein ffilm fer nesaf, cefais eiliad fach o dawelwch wrth i mi edrych allan dros awyr fawr Eryri. Oedais, cymerais anadl ddofn gan sylweddoli bod pa bynnag gyfeiriad yr edrychais tuag ato, yn cynnwys rhyw gymaint o hud Hijinx.
Ychydig i fyny'r ffordd roedd Andrew Tadd, un o'n hactorion rhagorol, yn gweithio ar ei olygfeydd gyda'n criw llawrydd anorchfygol, tra, rai cannoedd o filltiroedd i'r de, yn Llydaw, roedd ei gyd-actorion Hijinx Ffi, Iwan a Lindsay, o'r diwedd yn ôl ar daith yn Ffrainc gyda Meet Fred ynghyd â gweddill y cast a’r rheolwr cynhyrchu anghyffredin, Tom.
Roedd aelodau Odyssey yn ymarfer ar gyfer eu dychweliad Nadolig i Ganolfan Mileniwm Cymru, tra bod aelodau theatr ein pobl ifanc yn cynllunio ac yn gwneud eu prosiectau nesaf. Wrth i ni orffen ein ffilmio roedd y tîm yng Nghaerdydd yn cwblhau eu trefniadau ar gyfer gweithdai gyda Frantic Assembly, tra’r oedd tîm y theatr yn paratoi ar gyfer ein hantur ddigidol nesaf yn archwilio realiti estynedig!
Nôl gartref yn ddiogel, gyda’r dillad yn cael eu golchi a’r cŵn yn cysgu, roedd gwylio teledu’r penwythnos yn ddewis hawdd gyda Lindsay Foster, Academi’r De, yn serennu ym mhennod yr wythnos honno o Casualty ar BBC One. Daeth yr wythnos i ben yn berffaith gyda Craith ar S4C yn cynnwys actor Academi’r Gogledd, Justin - roedden ni i gyd wedi gwirioni #NoSpoilers
Felly nawr mae'n amser am saib arall, anadl ddofn arall, a dyna ni, ymlaen i'r flwyddyn nesaf, yn llawn gweithgaredd, creadigrwydd ac i mi, amser sy’n llawn o ddiolchgarwch. Gwerthfawrogiad o holl deulu Hijinx.
Ni allwch ei weld o'r tu allan bob amser, ond mae Hijinx yn brofiad tîm enfawr, ymroddedig, cariadus a gostyngedig. Grŵp o staff, actorion, cyfranogwyr, teuluoedd, gweithwyr llawrydd a gwirfoddolwyr sy'n chwilio'n ddiflino am anturiaethau creadigol ar y cyd. Gwneuthum brofi rhai o’r anturiaethau hynny ym mynyddoedd gwlyb a gwyntog Cymru wrth wneud y ffilm, ac rwy’n sicr bod llawer mwy i ddod. Rwyf eisoes yn ddiolchgar amdanynt.
Diolch i bawb.
Sarah Horner, Prif Weithredwr
Delwedd gan Jonathan Dunn