Gynorthwyydd Cyllid.
Y Rôl
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cyllid amryddawn i ymuno â’n tîm a helpu i gyflawni gweithrediadau cyllid llyfn, prydlon a chywir o ddydd i ddydd.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi rhediadau talu, anfonebu, cysoni, cadw llyfrau a gweinyddu ariannol ar draws Hijinx. Byddwch yn gweithio’n glos gyda’r Rheolwr Cyllid ac yn rhoi cefnogaeth ar draws prosesau ariannol mewnol ac yn wynebu’r defnyddwyr. Dyma gyfle gwych i unigolyn uchelgeisiol gyda llygad am fanylion, sy’n hoffi trefn ac â dymuniad i ddysgu a thyfu mewn tîm deinamig a chreadigol.
Pecyn Swydd
Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.
Os hoffech y pecyn recriwtio mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni: jobs@hijinx.org.uk
Sut i Ymgeisio
Os credwch eich bod chi yn addas ar gyfer y swydd ac y byddech yn hoffi ymgeisio, anfonwch y canlynol atom:
• CV cyfredol yn dweud wrthym amdanoch chi – a pham eich bod yn teimlo mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd, gan sicrhau eich bod yn amlygu eich profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word, os gwelwch yn dda.
• Llythyr esboniadol o ddim mwy na dwy ochr – yn dweud wrthym pam mai chi yw’r ymgeisydd iawn a sut y byddech yn mynd ati i ymdrin â chyfrifoldebau’r swydd. Anfonwch eich llythyr esboniadol ar ffurf dogfen Word.
• Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi ei llenwi – i’w llenwi ar-lein yma – cadarnhewch yn y llythyr esboniadol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.
Rydym yn gwybod y gall ymgeisio am swyddi fod yn brofiad anodd weithiau – yn arbennig os nad yw prosesau arferol yn gweithio i chi bob tro.
Os nad ysgrifennu yw eich dewis o ran cyfathrebu, gallwch anfon fideo neu ffeil sain atom (hyd at 5 munud) yn hytrach na llythyr esboniadol ysgrifenedig.
Dylid anfon ceisiadau at jobs@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.
Bydd y ceisiadau’n cau am hanner nos ar 29 Awst. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 22 Medi.
Termau.
Teitl Swydd: Cynorthwyydd Cyllid
Rheolwr Llinell: Rheolwr Cyllid
Yn gyfrifol am: Amherthnasol
Contract: Swydd barhaol (6 mis o brawf)
Oriau: Rhan-amser, 15 awr i’w cyflawni’n hyblyg yn ôl y gofyn i gyflawni gofynion y swydd. Rhoddir amser o’r gwaith in lieu.
Yn gweithio o: Swyddfa Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd – gweithio hybrid ar gael
Cyflog/Buddion: £25,000 y flwyddyn pro-rata (£10,000 gwirioneddol)
Mae Hijinx yn cynnig cynllun pensiwn gweithle trwy Nest, cynllun Beicio i’r Gwaith a Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr.
Yn ychwanegol, rydym yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg. Mae Hijinx wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a bydd yn gweithio’n glos gyda deiliad y swydd i sicrhau bod ei anghenion hyfforddiant yn cael eu bodloni.
Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol, pro rata (13.2 diwrnod y flwyddyn mewn gwirionedd)
AMSERLEN RECRIWTIOÂ
29 Awst: Ceisiadau yn cau am hanner nos
01 – 05 Medi: Ceisiadau yn cael eu sgrinio a’u gwneud yn ddienw
08 – 12 Medi: Llunio rhestr fer
12 Medi: Bydd pob ymgeisydd wedi cael penderfyniad
22 – 24 Medi: Cyfweliadau
27 Hydref: Dyddiad dechrau disgwyliedig