Beth sydd ei angen i fod yn grëwr newid?
Rydym ni’n gwybod bod cyllidebau (ac amser!) yn dynn, a bod natur y diwydiant sgrin yn fyrhoedlog ac yn symud yn gyflym. Dyna pam rydym ni’n darparu cefnogaeth sy’n teithio gyda chi yn ystod cynyrchiadau, gyda hyfforddiant trylwyr i staff craidd a hyfforddiant ar-lein neu bersonol i griw tymor byr.
Mae ein hyfforddiant yn rhyngweithiol ac wedi’i seilio ar chwarae rôl, oherwydd rydym yn gwybod nad yw eistedd drwy hyfforddiant hir sy’n dysgu jargon diddefnydd i chi yn gweithio – profiadau, sgyrsiau ac ymarfer SYDD yn gweithio. Mae effaith ehangach Hijinx (LINK) a’n Hastudiaethau Achos (LINK) yn dangos mai profiad o fywyd go iawn sy’n allweddol i wella cynhwysiant a goresgyn rhagsyniadau am anableddau dysgu.
Tîm Goreuon Hijinx .
Wrth i ni anelu at wneud newid go iawn, rydym yn sicrhau bod pecyn cymorth gennych y tu hwnt i’r hyfforddiant undydd. Bydd ein pecynnau pwrpasol yn rhoi Tîm Goreuon i chi o staff ac actorion Hijinx, sy’n gallu ymgynghori â chi a rhoi cefnogaeth â’ch anghenion hurio neu gynhyrchu, gan eich helpu i fynd i’r afael ag anghenion ehangach eich sefydliad o ran cynhwysiant anableddau dysgu, a sut i’w cyrraedd.
Mae lleisiau pobl greadigol ag anabledd dysgu a/neu awtistig yn ganolog i’n holl waith, felly rydym yn sicrhau bod cyswllt uniongyrchol gennych ag actor Hijinx a all rannu ei brofiadau. Gall ein hwyluswyr hyfforddedig gynnig Gwasanaethau Ymgynghorol parhaus ar arferion gorau, cyngor ar hurio a chastio, a mynediad i’n rhwydwaith o Alluogwyr Creadigol.
Gyda’n pecyn Crewyr Newid Ymroddedig, cewch:
- Becyn hyfforddiant chwarae rôl pwrpasol sy’n addas i anghenion eich sefydliad
- Model hybrid personol ac ar-lein
- Tîm Goreuon staff ac actorion Hijinx
- Mynediad i’n rhwydwaith o Alluogwyr Creadigol
- Cyngor ar gynhwysiant pobl anabl ac arferion gorau
- … A mwy!
Mae pob sefydliad yn gweithio’n wahanol a bydd ganddo anghenion gwahanol, felly p’un a oes miloedd o griw llawrydd yn ymuno â’ch cynhyrchiad bob blwyddyn, neu mae gennych staff craidd o 20 sy’n gweithio yn y cefndir i wireddu cynyrchiadau, mae gennym becyn Crewyr Newid Ymroddedig sy’n addas i chi.
I sgwrsio â ni am eich anghenion ac i ddatblygu pecyn sy’n addas i’ch sefydliad, cysylltwch â ni heddiw!
Cysylltwch â Ni.
Ddim yn barod i ymrwymo i’r pecyn cyfan? .
Trowch at ein haenau Cynghreiriaid Brwd a’n Cefnogwyr Cychwynwyr.