Mae Coblyn yn sioe deuluol sy’n dathlu llên gwerin Cymru ac yn llawn dop â cherddoriaeth, caneuon a dawnsio gwerin.
Yng ngwaelod yr ardd, rhwng y caws llyffant a’r pwll bach rhyfedd, mae’r Coblynnod yn byw – criw bach gwyllt o gorachod hudol!
Cyflwynir gan Kitsch & Sync Collective, Hijinx a Theatr Iolo. Mae Coblyn yn sioe weledol sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg a’r rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg. Bydd Taith Gyffwrdd a Sain Ddisgrifiad ar gael ym mhob perfformiad.
🍄🍄🍄
Cyflwynir COBLYN gan Kitsch & Sync Collective, Hijinx a Theatr Iolo, gyda diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru a’n cyd-gomisiynwyr, Ymddiredolaeth Diwylliannol Awen, Gŵyl Fach y Fro, Yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl.


Cast a Thîm Creadigol.
Kitsch & Sync Collective
Crewyr
Andrew Tadd
Perfformiwr
Adam C Webb
Perfformiwr
Georgina Harris
Perfformiwr
Kylie Ann Smith
Perfformiwr
Rhiannon Matthews
Dylunio Gwisgoedd
Kylie Ann Smith
Dylunio Gwisgoedd
Carl Davies
Dylunio Setiau a Propiau
Dyfan Jones
Cyfansoddi a Dylunio Sain
Glesni Price-Jones
Cynhyrchydd