Are You O.K?

DATGANIAD I'R WASG

Are you OK? Golwg ddychanol ar fywyd yn y cyfnod clo, wedi’i chreu gan berfformwyr amrywiol yng Nghymru a Tsieina

Mae’r Cwmni Theatr o Gymru, Hijinx, yn gweithio gyda Gŵyl Gelfyddydau No Limits Hong Kong (HKAF) i greu sioe newydd am fywyd yn y cyfnod clo wedi’i chreu gan gyfranogwyr o ddwy wlad a dau ddiwylliant gwahanol. Mae Are you OK? yn sioe newydd sbon sy’n cynnwys grŵp amrywiol o berfformwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a Hong Kong a fydd yn cael ei darlledu ar-lein ar 6 Mawrth 2021.

Mae prosiect Artist Preswyl No Limits eleni yn gydweithrediad arloesol a grëwyd ar y cyd â Hijinx. Fe’i cynhaliwyd dros 11 wythnos a rhoddodd gyfleoedd i bobl â gwahanol alluoedd rannu eu straeon a chyfoethogi eu profiadau theatr trwy gynnal cyfres o weithdai theatr ar-lein newydd eu datblygu, gan arwain at greu prif berfformiad terfynol.

Mae Cyfarwyddwr Artistig Hijinx, sef Ben Pettitt-Wade, y cyfansoddwr Tic Ashfield, a’r awdur/cyfarwyddwr Michelle Li, sy’n byw yn Hong Kong, wedi bod yn gweithio gyda grŵp cynhwysol o berfformwyr i greu’r cynhyrchiad ar-lein Are You OK?, gan weithio mewn dwy iaith, ar draws dau gyfandir.

Mae Are You OK? yn adlewyrchu byd wedi’i droi ar ei ben gan y pandemig mewn dwy wlad wahanol. Y drefn ddyddiol ailadroddus a’r rhwystrau maen nhw wedi’u hwynebu. Yr eiliadau o lawenydd a’r adegau anodd. Mae’r grŵp amrywiol hwn o berfformwyr o Hong Kong a Chymru yn edrych ar fyd dan gyfyngiadau, ar sut mae bywyd wedi newid, neu aros yr un fath, ar beth a phwy rydym ni’n gweld eu heisiau, ar sut gallwn helpu ein gilydd heb allu bod gyda’n gilydd.

“Mae’r actorion o Hong Kong ymhlith y bobl anwylaf a mwyaf caredig rydw i erioed wedi gweithio gyda nhw. Maen nhw’n broffesiynol iawn ac mae’n fraint i mi weithio gyda nhw. Rwy’n gobeithio y galla’ i weithio gyda nhw eto. Mae traddodiadau ac iaith yr actorion o Hong Kong yn hyfryd iawn. Dylai pobl ddod i weld dwy iaith a dau ddiwylliant gwahanol yn dod ynghyd fel tîm a sut mae gwledydd gwahanol yn ymdopi â’r cyfnod clo.”

Faye Wiggan, Actor o Academi’r Gogledd Hijinx

Bydd Are you OK? yn berfformiad rhyngweithiol byw, wedi’i greu ar Zoom a’i gyflwyno ar Zoom, o gartrefi’r perfformwyr. Bydd y perfformiad mewn Cantoneg a Saesneg gyda chapsiynau. Bydd gan y darn ei sain a’i gerddoriaeth wreiddiol ei hun a grëwyd gan y cyfansoddwr Tic Ashfield sydd wedi ennill gwobr BAFTA.

“Rydyn ni’n teimlo’n hynod ffodus a chyffrous i fod yn gweithio gyda chymysgedd o 28 o artistiaid o Hong Kong a Chymru, i ddyfeisio “Are you OK?”, sy’n berfformiad Zoom byw a grëwyd ar draws cyfandiroedd, ieithoedd a diwylliannau, a’r cyfan heb adael ein cartrefi. Rydyn ni’n awyddus iawn i’w rannu â’r byd ar 6 Mawrth.”

Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Artistig Hijinx

Lansiwyd Gŵyl Gelfyddydau No Limits gyntaf yn 2019. Mae’n cael ei chyflwyno ar y cyd gan Ŵyl Gelfyddydau Hong Kong ac Ymddiriedolaeth Elusennau Clwb Joci Hong Kong, gyda’r nod o greu amgylchedd dirwystr ac archwilio a hyrwyddo cynwysoldeb a dealltwriaeth trwy’r celfyddydau.

Hijinx yw un o’r cwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw yn Ewrop, sy’n ymdrechu i gyflawni cydraddoldeb trwy greu celf ragorol gydag actorion sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ar y llwyfan, ar y sgrîn, ar y stryd, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar gyfer Cymru a’r byd. Mae Hijinx wedi dal ati i archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg i wthio ffiniau a pharhau i gysylltu a chreu ar-lein yn ystod y pandemig diweddar, trwy greu comisiwn ar-lein rhyngweithiol newydd, sef Metamorphosis, ar gyfer digwyddiad Field of Streams Gŵyl Green Man, a pharhau â’i raglen PAWB trwy ymgysylltu ar-lein.

Bydd Are you OK? yn cael ei ffrydio’n fyw o gartrefi’r perfformwyr yn Hong Kong a Chymru am 12pm (y Deyrnas Unedig)/8pm (Hong Kong) ar 6 Mawrth. Mae tocynnau am ddim.

I gofrestru ar gyfer y Sioe, ewch i: https://go.nolimits.hk/AIR2021regen

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglen AIR a’r Sioe ar gael yn: https://go.nolimits.hk/AIR2021en

I gael rhagor o wybodaeth ar gyfer y wasg, delweddau neu drefnu cyfweliad, cysylltwch â Suzanne Carter Marketing suzannecartermarketing@gmail.com / 07885977044


Nodiadau i Olygyddion

Hijinx yw un o’r cwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw yn Ewrop, sy’n ymdrechu i gyflawni cydraddoldeb trwy greu celf ragorol gydag actorion sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ar y llwyfan, ar y sgrîn, ar y stryd, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar gyfer Cymru a’r byd.

Mae gwaith theatr mawr ei glod y cwmni yn wreiddiol, yn annisgwyl, yn flaengar ac yn ddoniol, ac mae galw mawr amdano ledled y byd. Mae cynyrchiadau gan gynnwys Meet Fred, The Flop ac Into the Light wedi teithio i fwy nag 20 o wledydd yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Mae Academïau Hijinx yn darparu hyfforddiant drama proffesiynol i 70 o actorion unigryw o ddawnus ledled Cymru. Mae’r actorion Hijinx hyn, sydd â chyflyrau fel Syndrom Down, Awtistiaeth a Syndrom Asperger, wrth wraidd gwaith y cwmni mewn cynyrchiadau, busnesau a phrosiectau cymunedol. Maen nhw’n cael eu hyrwyddo i’r diwydiannau theatr, teledu a ffilm ehangach ar www.hijinxactors.co.uk, sef y platfform castio mwyaf yn y Deyrnas Unedig sy’n benodol ar gyfer actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Mae Hijinx eisiau gweld mwy o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ar y teledu ac mewn ffilmiau, yn ogystal ag ar y llwyfan. Mae Ffilmiau Hijinx yn cynhyrchu ffilmiau byr trawiadol i godi proffil a dangos effaith doniau unigryw actorion Hijinx, ac yn 2018, cyhoeddodd y cwmni argymhellion ynglŷn â safonau diwydiant sgrîn newydd ar gyfer castio actorion ag anabledd dysgu (niwrowahanol).

Mae Hijinx Pawb yn cynnig rhwydwaith Cymru gyfan o gyrsiau drama cymunedol i bawb sydd eisiau actio, ni waeth am allu neu brofiad.

Ochr yn ochr â hyn, mae Hijinx yn cynnig rhaglen hyfforddi arbenigol arobryn sy’n grymuso staff mewn ystod eang o fusnesau trwy roi’r hyder a’r sgiliau iddynt allu cyfathrebu’n dda â chwsmeriaid agored i niwed. I gael newyddion a diweddariadau am Hijinx, ewch i’r wefan http://www.hijinx.org.uk.

Dilynwch Hijinx ar Twitter ac Instagram @HijinxTheatre neu Facebook.com/HijinxTheatre

Cefnogir Hijinx yn hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth Julia a Hans Rausing, Sefydliad Banc Lloyds, Sefydliad Morrisons, Sefydliad Rayne a Phlant mewn Angen y BBC.

Bywgraffiadau

Cysyniad Creadigol a Chyfarwyddwr – Ben Pettitt-Wade

Mae Ben Pettitt-Wade yn gyfarwyddwr arobryn sydd wedi gweithio gydag artistiaid ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth am fwy nag 20 mlynedd.

Mae wedi dyfeisio a chyfarwyddo nifer o gynyrchiadau ar gyfer Hijinx, gan gynnwys y ffenomen Meet Fred, sydd wedi teithio’n rhyngwladol ar draws Ewrop, Unol Daleithiau America, De Corea a Tsieina ac wedi cael ei chyfieithu i 11 o ieithoedd. Yn 2019, cydgyfarwyddodd Pettitt-Wade Mission Control gyda Kully Thiarai, sef cydweithrediad rhwng Hijinx a Theatr Genedlaethol Cymru gyda chast cynhwysol o fwy nag 80, a lwyfannwyd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Yn ddiweddar, enillodd y wobr Cyfarwyddwr Gorau yn yr Ŵyl Good The@tre, sef gŵyl ryngwladol o theatr ar-lein fyw, am Metamorphosis, a grëwyd ac a gyflwynwyd ar Zoom yn ystod y pandemig Covid-19.

Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Golygydd Testun – Michelle Li

Michelle Li yw sylfaenydd a chydgyfarwyddwr artistig Rooftop Productions. Mae ganddi MA mewn Creu Perfformiadau o Brifysgol Goldsmiths, Llundain, a BA mewn Astudiaethau Saesneg o Brifysgol Hong Kong. Yn ogystal â bod yn ddramodwr, mae hi hefyd yn gyfarwyddwr theatr, perfformiwr, cantores, cynhyrchydd ac addysgwr theatr. Mae ei gwaith lleol diweddar yn cynnwys, ar gyfer Rooftop Productions, Testimony, The Furies Variations, Not The Maids, Lost Shoreline, Milk and Honey, The Beautiful Ones, A Series of Unexpected Events; ac ar gyfer Gŵyl Gelfyddydau Hong Kong: log ymarfer o The Wizard of Oz a Danz Up.

Cyfansoddwr - Tic Ashfield

Perfformwyr Dyfeisio

(Cyfranogwyr o Hong Kong) YK, Wan Lai-yee, Kathy Ng, Sam Ng, Crystal Lee, Terry Chau, Philip Chow, Gethin Chow, Aranza Rus-sell Terre, Theresa Leung, Sally Leung, Cheung Ling-long Angel, Karen Chan, Lemon Tsang, Leung Ho-hei, Yeung Sze-lok Llyr, Lai Yuk-lam, Clayton Lo, Harmony Timbre, Ben Kwong, Hsu Sing-chin

(Hijinx) Lindsay Foster, Michelle McTernan, Richard Newnham, Owen Pugh, Sian Walker, Faye Wiggan

Y Tîm Cynhyrchu

(Hijinx) Rheolwr Cynhyrchu: Tom Ayres

Uwch Gynhyrchydd: Ellis Wrightbrook

Cynhyrchydd Cynorthwyol: Carys Mol

Cynorthwy-ydd Technegol: Sam Jones

(Hong Kong) Cynorthwywyr Artistiaid: Karen Ka a Dominic Lee

Cynorthwy-ydd Technegol: Yu Pui-ho