Rydyn ni’n deffro, rydyn ni’n gwisgo, rydyn ni’n brwsio ein dannedd, rydyn ni’n bwyta ein brecwast, rydyn ni’n hydradu, rydyn ni’n gwneud ymarfer corff, rydyn ni’n hydradu eto, rydyn ni’n tyfu planhigion, rydyn ni’n edrych allan o’n ffenestr. Os ydyn ni’n lwcus rydyn ni’n mynd tu allan, rydyn ni’n gweld pobl, o bell, rydyn ni’n chwerthin, rydyn ni’n crio. Rydyn ni’n mynd i’r gwely. Yna rydyn ni’n gwneud y cyfan eto. Ond ydyn ni’n iawn?
Mae grŵp amrywiol o berfformwyr o Hong Kong a Chymru (DU) yn myfyrio ar fyd sydd dan glo, ar sut mae bywyd wedi newid, neu wedi aros yr un fath, ar yr hyn a phwy rydyn ni’n ei golli, ar sut gallwn ni helpu ein gilydd heb allu bod gyda’i gilydd.
Mae ‘Are You O.K?’ yn berfformiad byw, wedi’i greu ar Zoom a’i gyflwyno trwy Zoom o gartrefi’r perfformiwr ei hun. Bydd y perfformiad mewn Cantoneg a Saesneg.
Newyddion gwych! Mae recordiad o’r perfformiad fyw ar gael nawr i wylio ar alw!
Dyfeisio yn ystod y clo fawr
Golwg ‘y tu ôl i’r sgrin’ ar y broses ddyfeisio ar gyfer ‘Are You O.K?’, Wedi’i ffilmio a’i golygu gan Bacon Cheng a Hui Chung-yin
Dyfeiswyr a Pherfformwyr.
Lindsay Foster
Hijinx
Michelle McTernan
Hijinx
Richard Newnham
Hijinx
Owen Pugh
Hijinx
Sian Walker
Hijinx
Faye Wiggan
Hijinx
YK
Hong Kong
Wan Lai-Yee
Hong Kong
Kathy Ng
Hong Kong
Sam Ng
Hong Kong
Crystal Lee
Hong Kong
Terry Chau
Hong Kong
Philip Chow
Hong Kong
Hei Chow (Gethin)
Hong Kong
Aranza Russell Terre
Hong Kong
Theresa Leung
Hong Kong
Sally Leung
Hong Kong
Cheung Ling-Long Angel
Hong Kong
Karen Chan
Hong Kong
Lemon Tsang
Hong Kong
Leung Ho-hei
Hong Kong
Yeung Sze-lok (Llyr)
Hong Kong
Lai Yuk-lam
Hong Kong
Clayton Lo
Hong Kong
Harmony Timbre
Hong Kong
Ben Kwong
Hong Kong
Hsu Sing-chin
Hong Kong
Adlewyrchiad twymgalon ar fyd sydd wedi'i chreithio gan pandemig.
Lam Kam-Kwan, No Limits
Rydyn ni'n teimlo'n ffodus iawn ac yn gyffrous ein bod ni'n gweithio gyda chymysgedd o 28 o artistiaid o Hong Kong a Chymru, gan ddyfeisio "Are You O.K?", perfformiad byw ar Zoom, a grëwyd ar draws cyfandiroedd, ieithoedd a diwylliannau a phob un heb adael ein cartrefi ein hunain. Ni allwn aros i'w rannu gyda'r byd ar Fawrth 6.
Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr
Tîm Creadigol a Chynhyrchu.
Ben Pettitt-Wade
Cyfarwyddwr
Michelle Li
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Hong Kong)
Tic Ashfield
Cyfansoddwr
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchu
Ellis Wrightbrook
Uwch Gynhyrchydd
Carys Mol
Cynhyrchydd Cynorthwyol
Sam Jones
Technegydd Cynorthwyol
Karen Ka
Artist Cynorthwyol (Hong Kong)
Dominic Lee
Cyfieithwr
Yu Pui-ho
Technegydd Cynorthwyol (Hong Kong)
Amdan yr ŵyl.
Nod “No Limits”, a gyflwynwyd ar y cyd gan Hong Kong Arts Festival (HKAF) a The Hong Kong Jockey Club Charities Trust, yw magu amgylchedd di-rwystr a hyrwyddo cynhwysiant a dealltwriaeth trwy'r celfyddydau. Yn ogystal â chyflwyno a chynhyrchu perfformiadau cynhwysol, mae'i 'Roundtable' ac 'Artists-in-Residence'(AIR) yn rhannau annatod o'r gyfres o ddigwyddiadau blynyddol.