Academi Cwmni Theatr Cynhwysol Hijinx yn Aberystwyth yn Diolch i’r Gwirfoddolwr Oliver am Flwyddyn o Gefnogaeth
Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr 2025, hoffai’r cwmni theatr cynhwysol Hijinx ddathlu gwaith eu gwirfoddolwyr yn y sesiynau a thu ôl i’r llenni.
Hijinx yw un o brif gwmnïau theatr cynhwysol Ewrop sy’n gweithio i arloesi, cynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Mae pum Academi Hijinx ar draws Cymru yn rhoi hyfforddiant perfformio proffesiynol i actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth. Yna mae Hijinx yn cynrychioli’r actorion trwy eu llwyfan gastio Actorion Hijinx, gan eu helpu i ddod o hyd i waith yn y theatr neu mewn ffilmiau.
Mae un o’r Academïau yma, Academi’r Canolbarth, yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, lle maent yn ffodus o gael cefnogaeth gwirfoddolwr cyson Oliver Riordan, sy’n ymuno â’r grŵp bob dydd Llun bron. Mae Oliver yn helpu i gefnogi actorion yr Academi yn ystod sesiynau ac mae’n mwynhau cymryd rhan yn y cyfnod cynhesu, gemau, gweithgareddau drama, hyfforddiant a hyd yn oed berfformiadau hefyd.
Yma mae Cath Rigler, Tiwtor yn yr Academi, yn esbonio rhagor:
“Mae Theatr Hijinx yn cynhyrchu gwaith theatr proffesiynol cynhwysol o safon uchel; maent hefyd yn rhedeg Academïau lle gall oedolion sy’n uniaethu â bod yn niwroamrywiol / ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn gallu hyfforddi fel actorion proffesiynol. Bydd Academi’r Canolbarth Hijinx yn cyfarfod bob dydd Llun yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac mae’n wych cael Oliver gyda ni fel gwirfoddolwr cyson. Mae’n aelod sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr o’n grŵp, mae ei gael gyda ni yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hactorion - ac mae’n amlwg ei fod yn mwynhau ei hun yn llwyr hefyd!”
Mae Oliver yn cytuno:
“[Mae Hijinx] yn gwmni theatr pwysig iawn; ychydig iawn o gwmnïau sydd yn arbenigo mewn hyfforddi actorion niwroamrywiol. Mae’r grŵp yn groesawus iawn, ac maen nhw’n griw gwych i weithio gyda nhw, yn hollol broffesiynol - rwyf wrth fy modd yma! Rwy’n teimlo fy mod yn gwella fy hyfforddiant personol a’m hymarfer hyd yn oed pan fyddaf yn bennaf yn canolbwyntio ar y gefnogaeth y gallaf ei roi i’r actorion.”
Os hoffech chi gael gwybod rhagor am Hijinx a’r cyfleoedd gwirfoddoli y maent yn eu cynnig, yna cysylltwch â Jacqui Onions yn jacqui.onions@hijinx.org.uk, neu llenwch y ffurflen ar wefan Hijinx.
Mae gan Academi’r Canolbarth leoedd i bobl newydd ymuno hefyd. Os oes gennych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ac yn chwilio am gyfle i gael hyfforddiant perfformio proffesiynol, cysylltwch â Cath ar cath.rigler@hijinx.org i gael gwybod rhagor a threfnu sesiwn flasu gyda’r grŵp.
