Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston yn Cefnogi Ensemble

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston wedi ein helpu i greu hanes trwy gefnogi’r cohort cyntaf o Ensemble Hijinx.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston wedi ein helpu i greu hanes trwy gefnogi’r cohort cyntaf (2025-2027) o Ensemble Hijinx – Ensemble cenedlaethol cyntaf Cymru o actorion gydag anableddau dysgu a /neu awtistiaeth. Gyda chefnogaeth Colwinston ac ymrwymiad parhaus Cyngor Celfyddydau Cymru, mae 8 o actorion Hijinx yn symud tu hwnt i’n Hacademïau hyfforddiant perfformio at ddatblygiad proffesiynol parhaus gyda thâl. 

Gan weithio gyda phobl greadigol amlwg, maent wedi cychwyn ar brosiectau ymchwil a datblygu uchelgeisiol – o ddatblygu sioe gerdd gyntaf erioed Hijinx gyda Seiriol Davies; i archwilio chwedleua i gynulleidfaoedd iau gyda Theatr Iolo...a dim ond y dechrau yw hyn! 

Ar hyd y ffordd mae’r Ensemble yn cael golwg drwyadl ar fywyd cyfan y diwydiant theatr – o ymarfer a theithio, i gynllunio cynyrchiadau, codi arian ac ymgysylltu â’r gynulleidfa – gan gynyddu’r sgiliau a’r hyder i ffynnu fel artistiaid proffesiynol. 

Gyda’r gefnogaeth hanfodol hon, mae’r Ensemble yn siapio theatr ddewr, gynhwysol sy’n rhoi lleisiau anabl ac awtistig yn ganolog i’r llwyfan ac yn agor pennod newydd i theatr yng Nghymru.

Dysgwch ragor am yr Ensemble yma: Ensemble Hijinx - Hijinx 

Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a Chyngor Celfyddydau Cymru am sicrhau bod y garreg filltir hon yn bosibl.