Enillwch wybodaeth hanfodol ar sut i wella hygyrchedd eich digwyddiadau ar gyfer mynychwyr ag anableddau dysgu ac/neu sydd ag awtistiaeth.
Dim ond 12% o oedolion ag anableddau dysgu sy’n mynychu digwyddiadau diwylliannol yn rheolaidd, o’i gymharu â dros 70% o’r boblogaeth gyffredinol (Mencap, 2019).
Mae Tu Hwnt i Eiriau yn rhaglen hyfforddi ryngweithiol ar-lein, newydd sbon, a gynlluniwyd i wella cyfathrebu a hygyrchedd ar draws y sector digwyddiadau yng Nghymru a thu hwnt.
Gan dynnu ar brofiad byw artistiaid Academi Hijinx, mae’r cwrs wedi’i lunio o amgylch cyfres o senarios rhyngweithiol sy’n seiliedig ar ddrama, gan adlewyrchu’n agos natur brofiadol sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb Hijinx.
Trwy gydol y cwrs, fe welwch chi:
- Ffilmiau byr ar sail sefyllfaoedd
- Gweithgareddau a chwisiau rhyngweithiol
- Cyfleoedd i ystyried a gwneud nodiadau
- Adnoddau i’w lawrlwytho a chanllawiau PDF
- Offer ymarferol i gefnogi eich dysgu
Mae’r cwrs yn costio £59 y person, gyda phecynnau ar gael i grwpiau mwy am gost is fesul unigolyn; mae’r holl arian a godir yn mynd yn ôl i gefnogi’r hyn rydym yn ei wneud yn Hijinx..
Mae’n cymryd tua 3.5 awr, a gellir ei oedi a’i ailgychwyn yn ôl eich hwylustod.
Dysgwch fwy am gynnwys y cwrs drwy glicio ar y botwm isod.
Diolch am gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru, ac mewn cydweithrediad â Anabledd Dysgu Cymru, Ffrindiau Gig Cymru ac Creu Cymru.


