Diddordeb mewn ymuno â Theatr Pobl Ifanc y Gogledd?.
Ydych chi’n dymuno cynyddu eich hunanhyder? Gyda Theatr Pobl Ifanc y Gogledd byddwch yn dysgu sgiliau aml-ddisgyblaeth, gan anelu i gefnogi grymuso cadarnhaol, sgiliau hanfodol a hunan-gred.
Anelwyd Theatr Pobl Ifanc y Gogledd at bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Mae’r sesiynau yn ddiddorol, hwyl ac yn agored i bawb, gyda a heb anableddau dysgu.
Cynhelir y sesiynau yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio, Bangor rhwng 4.30pm – 6.30pm ar ddyddiau Mercher, yn unol â’r calendr academaidd. Cost: £45 y tymor.
Cysylltwch drwy ddefnyddio’r ffurflen islaw i ganfod mwy – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!