Nid oes ar dalent angen caniatâd. Mae arni angen cyfle a’i meithrin.
"Mae’r profiadau rwyf wedi eu cael ar y llwyfan yn llawn hud, a rhai o’r eiliadau mwyaf balch yn fy mywyd".
Odyssey yw ein grŵp theatr cynhwysol i oedolion. Ymunodd un aelod Odyssey â Hijinx gyntaf trwy weithdai theatr fforwm – ond roedd yn eiliad ddigymell a newidiodd eu bywyd.
“Ar ddamwain ymunais â gorymdaith stryd gydag Odyssey yng Nghasnewydd – a meddwl, mae hyn yn rhywbeth MAE’N RHAID i mi fod yn rhan ohono!”
Nawr ar ôl mwy na degawd gydag Odyssey, mae eu hyder wedi cynyddu, maent wedi dysgu sgiliau newydd a darganfod balchder yn eu creadigrwydd.
“Mae wedi fy newid mewn cymaint o ffyrdd…gan ddysgu fy mod yn gallu cyflawni cymaint mwy nag y byddwn erioed wedi dychmygu. Roedd y syniad o fod ar lwyfan, roeddwn yn meddwl, yn mynd i fod yn freuddwyd a dim mwy. O mor anghywir oeddwn i! Fe wnaeth Odyssey fy helpu i sylweddol ei fod yn rhywbeth y gallaf ei wneud, ac mae’r profiadau rwyf wedi eu cael ar y llwyfan yn llawn hud, a rhai o’r eiliadau mwyaf balch yn fy mywyd.”
Mae Odyssey yn un o nifer o brosiectau Hijinx sy’n trawsnewid bywydau trwy greadigrwydd, cynhwysiant a pherfformiad. Bydd eich cefnogaeth yn golygu y gallwn groesawu mwy o bobl fel hyn – gan gynnig lle iddynt berthyn iddo, tyfu a disgleirio.