Straeon newid

Oherwydd Hijinx ….

Stori Catrin.

Ymunodd Catrin â Hijinx yn 2015. Cyn hynny, roedd yn ei chael hi’n anodd meithrin cyfeillgarwch â phobl ac nid oedd ganddi unrhyw ffrindiau go iawn. Roedd hi’n aml yn teimlo’n arunig ac yn dioddef o orbryder ac iselder, ac roedd ei hanabledd dysgu’n gwneud iddi deimlo nad oedd yn ffitio.

Un diwrnod, aeth mam Catrin i ddigwyddiad yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, lle gwelodd grwpiau o bobl ifanc ag anableddau dysgu, o oedran tebyg i’w merch, yn sgwrsio ac yn cael bwyd yn y bar. Darganfu mai actorion Hijinx oedden nhw, yn ymarfer ar gyfer eu perfformiad diweddaraf, ac aeth adref a pherswadio ei merch i fynd i weld y sioe. Daeth Catrin o’r sioe wedi’i hysbrydoli, yn llawn cyffro a bron â marw eisiau ymuno â Hijinx. Ysgrifennodd lythyr at y prif actor, ac er ei bod yn byw dwy awr o Gaerdydd, ymrwymodd ei rhieni i’w gyrru i weithdai wythnosol Hijinx.

Roedd Catrin wrth ei bodd o’r cychwyn cyntaf. Dechreuodd feithrin cyfeillgarwch â phobl a dysgu sgiliau newydd. Blodeuodd ar y llwyfan, a rhoddodd berfformiadau hudol a synnodd staff Hijinx a’i rhieni. Roedd ei mam wrth ei bodd.

Yn 2018, dewiswyd Catrin i gynrychioli Hijinx ar daith ryngwladol. Dyna oedd y tro cyntaf iddi fynd ar awyren a theithio heb ei rhieni. Ers hynny, mae wedi gwneud gwaith actio â thâl ac wedi teithio i fwy na chwech o wledydd fel rhan o sioe deithiol fyd-eang.

O ganlyniad i’w gwaith gyda Hijinx a’r cymorth a gafodd gan y gwasanaethau cymdeithasol, penderfynodd Catrin fyw’n annibynnol flwyddyn yn ôl.

“Daeth o hyd i rywbeth roedd hi wir yn ei fwynhau. Tan hynny, nid oedd wedi mwynhau unrhyw beth erioed. Roedd arni eisiau mynd bob wythnos. Mae Hijinx yn ei gwneud hi’n hapus. Mae wedi magu hyder.” Rhiant

(Mae pob un o’r dyfyniadau uchod yn gyfieithiadau o ddyfyniadau go iawn gan actorion a chyfranogwyr Hijinx, a’u rhieni. Er mwyn diogelu hunaniaeth unigolion, mae Catrin yn gymeriad cyfansawdd.)

Adroddiad ar yr Effaith Gymdeithasol

Ein Heffaith