Rydym yn darparu profiadau theatr fforwm trochol wedi eu haddasu yn ôl heriau eich sefydliad.
Mae ein sesiynau cynhadledd yn cael eu darparu trwy theatr fforwm – gan ddod â’ch heriau yn y gweithle yn fyw o flaen cynulleidfa fyw.
Rydym yn gweithio gyda chi i ddynodi rhwystrau sy’n atal ymarfer cynhwysol, yna mae ein hactorion yn perfformio sefyllfaoedd o’r byd go iawn o’u profiad personol. Gwahoddir y gynulleidfa i gamu i mewn, awgrymu newidiadau, a hyd yn oed gymryd rhan, gan greu gofod dysgu grymus, rhyngweithiol sy’n tanio sgwrs ddidwyll a gweithredu cadarnhaol.
Beth yw’r manteision?
- Ffordd ddifyr o hyfforddi grŵp mawr
- Golygfeydd wedi eu hysgrifennu’n benodol ar gyfer eich staff
- Archwilio pwnc anodd mewn modd ffordd nad yw’n creu gwrthdaro
Ar gyfer pwy mae hyn?
Cwmnïau, sefydliadau a busnesau gyda chynadleddau blynyddol, digwyddiadau diwydiant, seminarau neu ddigwyddiadau hyfforddi
Mae archwilio thema trwy ddrama yn gallu bod yn ffordd haws o fynegi meddyliau a theimladau am y mater sy’n cael ei drafod
Simon Rose, Anabledd Dysgu Cymru
Roedd yr hyfforddiant yn unigryw – cafodd senarios perthnasol eu hactio mewn golygfeydd byw, gyda hiwmor yn cael ei ddefnyddio i ennyn diddordeb y gynulleidfa.
Wales and West Utilities