Yn fawr neu fach, mae pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth.

Rhoddion Untro.
Gallai cyfraniad unwaith yn unig greu cyfleoedd ystyrlon i’n hactorion a chyfranogwyr, o hyfforddiant a pherfformiadau i adnoddau hanfodol.
Cyfrannwch
Rhoddion Misol Rheolaidd – Dewch yn Rhoddwr Rheolaidd.
Mae cyfraniadau misol cyson yn ein helpu i gynllunio at y dyfodol a chynnal ein gwaith trwy’r flwyddyn. Maent yn golygu ein bod yn gallu rhoi cefnogaeth a chyfleoedd cyson i dros 160 o actorion a chyfranogwyr ag anabledd dysgu a/neu awtistig trwy Gymru. Ymunwch â'n cynllun rhoi rheolaidd, Hwb Hijinx, a helpwch i ailddiffinio beth sy'n bosibl mewn celfyddydau cynhwysol.
Dewch yn Rhoddwr Rheolaidd
Rhoi Wrth Siopa.
Sefydlwch gyfrif Give As You Live a bydd eich hoff siopau yn cyfrannu at Hijinx bob tro y byddwch yn siopa ar-lein — heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Gwefan Give as you Live
Rhoi Etifeddiaeth – Rhodd er Cof neu Rhodd yn Eich Ewyllys.
Gall rhoddion etifeddiaeth gefnogi cyfleoedd creadigol gydol oes i bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistig, cynyrchiadau theatr a ffilmiau cynhwysol sy’n newid calonnau a meddyliau, dyfodol lle mae pobl ag anabledd dysgu ac awtistig yn cael eu dathlu, eu parchu a’u gwerthfawrogi fel y dylent fod.
Darganfod Mwy