Mae ein Galluogwyr Creadigol yn darparu cymorth ar set i actorion ag anabledd dysgu

Yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn, gall y cymorth hwn eu helpu i ddeall dogfennau cyn cyrraedd y set, helpu gyda theithio, bod yn gyswllt rhwng yr actor ac unrhyw griw i roi cymorth â chyfathrebu, a gwneud i’r actor deimlo’n fwy cartrefol os nad oes ganddo lawer o brofiad ar set.

Trwy ddarparu Galluogwr Creadigol, mae’r actor yn cynnal ei annibyniaeth ac yn teimlo’i fod yn cael cymorth i fodloni ei anghenion. Fel arbenigwyr hyfforddedig sy’n deall anghenion yr unigolyn, gall ein Galluogwyr Creadigol gynorthwyo’ch cast a’ch criw wrth gyfathrebu a rhyngweithio â’r actor ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, gan hybu’r sgiliau a ddysgont yn ein hyfforddiant chwarae rôl.