Yn Hijinx, rydym yn gwybod nad yw un diwrnod o hyfforddiant yn achosi newid hirdymor. Dyma bwrpas ein gwasanaethau ymgynghorol – cymorth parhaus ar gyfer eich cynhyrchiad, cyhyd ag y bo’i angen arnoch, gan actorion Hijinx a’n staff hyfforddedig.

Fel rhan o becyn hyfforddiant ein Crewyr Newid Ymroddedig, bydd Tîm Goreuon Hijinx ar gael i chi – y grŵp penodol o staff ac actorion y gallwch ymgynghori â nhw trwy gydol eich pecyn.
Crewyr Newid Ymroddedig
Gyda phrofiad uniongyrchol o fod ar set, gall actorion Hijinx roi cipolwg i’w hanghenion ac i anghenion posibl y bobl rydych chi’n eu hurio, gan eich helpu i ehangu eich dealltwriaeth o anghenion pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Mae gan ein staff gyfoeth o wybodaeth i gefnogi’ch anghenion, fel yr arferion gorau o ran iaith a gweithredoedd, awgrymiadau ar gyfer amgylchedd y gweithle yn seiliedig ar ein hymchwil a’n profiad, a’ch cyfeirio at adnoddau allanol a dysgu pellach.