Polisi Iaith Gymraeg

Ein Polisi Iaith Gymraeg.

Cyflwyniad

Mae’r polisi a’r cynllun gweithredu cysylltiedig yn amlinellu ymrwymiad Hijinx i’r iaith Gymraeg; sut yr ydym yn bwriadu deall, datblygu a chryfhau ei hintegreiddio ar draws pob agwedd o’n gwaith; a sut y byddwn yn adolygu a monitro ein cynnydd.

Datganiad Polisi

Mae Hijinx yn ceisio bodloni hawl pobl sy’n byw yng Nghymru i gyfathrebu yn unrhyw un o ddwy iaith swyddogol Cymru, y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Hijinx wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal – fel y nodir yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yn unol â Safonau’r Gymraeg dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – a bydd yn sicrhau na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fydd yn gyfrifol am sicrhau bod Polisi a Chynllun Gweithredu’r Gymraeg yn cael eu gweithredu a byddant yn dirprwyo’r cyfrifoldeb am y gweithredu o ddydd i ddydd i’r Prif Weithredwr.

Mae’r Polisi hwn yn esbonio sut y bydd Hijinx yn gweithredu’r safonau ac egwyddorion hyn pryd bynnag y bydd yn ymarferol a phriodol.

Bydd holl aelodau’r staff yn ymwybodol o’u dyletswydd i weithredu’r polisi hwn a’i berthnasedd i’w maes gwaith.

Trwy weithio gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, bydd Hijinx yn gweithio i dderbyn y Cynnig Cymraeg a bydd yn parhau i adolygu a gwella ein darpariaeth a diweddaru ein cynllun gweithredu i gynyddu ein cefnogaeth i’r Gymraeg.

 

Gweler y polisi isod.