Mae un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop, Theatr Hijinx, yn creu newidiadau sylweddol i fywydau actorion, cyfranogwyr, a’u teuluoedd, ac yn newid amgyffredion o bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth (LD/A) ar lwyfan ac ar sgrin, yn ôl Adroddiad ar yr Effaith Gymdeithasol sydd newydd ei gyhoeddi.
Ystyrir Hijinx yn gwmni theatr gynhwysol mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae’n cynhyrchu perfformiadau a chynnal gweithgareddau o ansawdd uchel. Mae’n ymdrechu dros gydraddoldeb trwy wneud celf ragorol gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ar lwyfan, ar sgrin, ar y stryd, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i Gymru ac i’r byd.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan Abigail Tweed o gwmni Milestone Tweed, a Mark Richardson o gwmni Social Impact Consulting, ac mae’r Adroddiad ar Effaith Gymdeithasol Hijinx yn cyfleu straeon personol y bobl sy’n gweithio â’r cwmni theatr a’r ffordd y mae’n newid bywydau, gan ddangos gwerth economaidd cymdeithasol enfawr y celfyddydau. Mae’r ymchwil yn dangos bod y celfyddydau perfformio yn gyfrwng ar gyfer gwella iechyd a lles, a chynyddu hapusrwydd ym mywydau pobl.
Yn 2019-20, cynhyrchodd Hijinx dros £4.5 miliwn mewn gwerth cymdeithasol. Mae hynny’n golygu, am bob £1 a fuddsoddwyd yn Hijinx, crëwyd effaith gymdeithasol gwerth £4.84. Mae hyn yn cyfateb i werth 73,770 o siopa wythnosol ar gyfartaledd yn y DU.
Mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn dangos yn glir yr effaith y mae Hijinx yn ei chael o ran gwella bywydau ein hactorion a’u rhieni a’u cymunedau trwy fagu hyder ac annibyniaeth a chynyddu hapusrwydd. Yn ogystal, mae’r adroddiad yn dangos ein bod yn creu gwerth sylweddol yn y gymdeithas ehangach trwy newid canfyddiadau o’r bobl sy’n gweithio gyda ni, yn mynychu ein perfformiadau, neu’n cymryd rhan yn ein cyrsiau hyfforddiant.
Cadeirydd Hijinx, James Downes
Mae rhai o’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- 9 o bob 10 o actorion Hijinx yn teimlo’n fwy hyderus ers ymuno â Hijinx
- 72% o actorion yn gweld cynnydd yn eu hannibyniaeth o ganlyniad i ymuno â Hijinx.
Mae Lyndsey Foster yn un o actorion Hijinx, ac mae bellach yn byw ar ei phen ei hun ac yn teithio’r byd â sioeau Hijinx. Dywedodd
O fod yn ferch swil a gostyngedig, na fyddai’n gwneud unrhyw beth, dwi wedi dod yn ferch annibynnol a hyderus sydd â’r hyder i fynd i deithio, ac nid ydyn nhw [fy rhieni] yn gorfod gofidio amdanaf. Diolch i leoliad oedolyn a Hijinx, dwi yma’n gwneud yr hyn rwy’n ei wneud heddiw. Maen nhw’n wych. Maen nhw wedi rhoi llawer o gymorth i mi.
Lindsay Foster, Actorion Hijinx
Dywedodd Alison Powell, un o rieni Hijinx:
Mae Hijinx wedi rhoi ymdeimlad llawer cryfach i Tom ohono’i hun a’i anabledd – mae’n llawer mwy sicr o’i hun ac yn gallu mynegi ei farn am ei gryfderau a’i alluoedd. Mae wedi cynyddu ei ddeheurwydd geiriol a’i allu i egluro dros ei hun a mynegi ei anghenion a’i ddewisiadau a’i emosiynau.
Mae hefyd wedi trawsnewid ei allu i ddarllen ar yr olwg gyntaf – ei drawsnewid yn llwyr. Bellach, mae’n gallu darllen yn weddol rugl; yn sicr, mae’n gallu darllen yn weithredol, lle nad oedd yn gallu gwneud hynny o’r blaen.
Alison Powell
- 73% o actorion Hijinx yn dweud bod ganddynt fwy o ffrindiau, diolch i Hijinx.
- 72% o actorion Hijinx yn cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau Hijinx rhwng sesiynau.
- 73% o actorion a chyfranogwyr Hijinx yn dweud eu bod yn teimlo’n llawer hapusach ers bod gyda Hijinx.
Dywedodd Ashford Richards, un o gyfranogwyr Academi Hijinx:
Dywedwyd wrthyf yn yr ysgol nad oedd actio yn addas i mi ac y dylwn fynd i faes cyfrifeg. Ond gallaf wneud hyn. Edrychaf ymlaen at bob diwrnod.”
Ashford Richards, Actorion Hijinx
Yn ogystal â dangos sut mae ymgysylltu â’r celfyddydau yn gwella hapusrwydd a lles, dywed yr adroddiad bod Hijinx wedi nodi newid sylweddol o fewn y sector:
- 90% o’r bobl greadigol yn fwy cynhwysol ac wedi newid eu ffordd o weithio ers gweithio â Hijinx
- Mae Hijinx wedi cynhyrchu gwerth £119,000 o ran sgiliau a chyfleoedd, sy’n cyfateb i 5,958 o docynnau theatr.
Mae eu rhaglen hyfforddiant arloesol wedi gwneud newidiadau sylweddol i’r amgyffrediad o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth (LD/A) ar lwyfan, ar sgrin ac yn y gymuned.
Yn y ddrama Craith | Hidden gan BBC Cymru | S4C, mae Justin Melluish, sy’n actor niwrowahanol, yn chwarae un o’r prif rannau yn y gyfres newydd a ddaeth i ben yn ddiweddar ar S4C ond sydd yn parhau ar gael ar BBC iPlayer, ac a ddangosir ar BBC Cymru y flwyddyn nesaf.
Wrth weithio â Hijinx, cawsom gyfle i adolygu ein harferion, a meddwl am y ffordd rydym yn gweithio, a bod yn fwy cynhwysol, a byddwn yn parhau â hyn mewn cynyrchiadau eraill.
Mae Justin yn actor talentog dros ben, ac wrth weithio â Hijinx yn ystod y broses o gastio, daethom yn ymwybodol o ehangder y dalent sydd ar gael, a gobeithiwn y bydd cynhyrchwyr eraill yn ystyried eu hymagwedd.
Dywedodd Severn Screen, cynhyrchwyr Craith | Hidden
Dyma brif rôl deledu gyntaf Justin.
Profiad gwych oedd cwrdd â’r cast a’r criw. Maen nhw’n bobl hyfryd i weithio â nhw ac fe ddes i’n agos iawn at fy mrawd Sion yn y gyfres. Diolch i Seven Screen am fy newis. Ni allaf gredu’r peth, dyma wireddu fy mreuddwyd.
Justin Melluish, Hijinx Actor
Dywedodd partneriaid eraill yn y diwydiant:
Mae Hijinx yn dangos bod modd gweithio â phobl ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu ar sail gyfartal, gan ystyried ein hanghenion gwahanol, wrth ddarparu strwythur i weithio ynddo a chefnogi pawb yn yr ystafell.
Yn syml, mae Hijinx yn creu’r gwaith gorau. Gyda phawb, ar gyfer pawb, i’w gymryd i bob man. Maen nhw wedi gwneud gwaith cynhwysol, sef rhywbeth y dylai pawb ohonom ei wneud.
Yn ogystal, mae rhieni wedi mynegi pwysigrwydd a gwerth amhrisiadwy Hijinx a’r celfyddydau dros y 18 mis diwethaf, yn enwedig i bobl a fu’n ynysu a gwarchod yn ystod y pandemig. Dywedodd Amadan Freeman, y mae eu merch, Bethany, wedi mynychu Academi Hijinx yn Sir Gaerfyrddin dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Maen nhw’n trin Bethany â’r parch mwyaf. Yn ystod COVID, buon nhw’n cadw Bethany, a ninnau hefyd, mewn cysylltiad, gan ein hysgogi drwy rai cyfnodau anodd. Buon nhw’n ein cefnogi a’n helpu i feddwl am ffyrdd creadigol o wneud pethau.
Mae Hijinx wedi bod yn arloesol yn y ffordd y maen nhw’n hyfforddi ac yn cefnogi, gan gyfrannu at newid canfyddiadau o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Dywedodd Sarah Horner, Prif Weithredwr Hijinx:
Yn Hijinx, gwelwn yn ddyddiol bŵer y theatr a’r celfyddydau i drawsnewid, ac mae hynny wedi bod mor bwysig dros y 18 mis diwethaf. Mae’n wych gweld tystiolaeth o hyn mor eglur yn yr adroddiad. Mae’n dangos yr effaith enfawr y mae Hijinx, a’r celfyddydau, yn ei chael ar y bobl sy’n cymryd rhan, a’r budd ehangach i deuluoedd a chymunedau.
Rydym yn falch o greu gwaith a phrofiadau sy’n newid amgyffredion pobl, a chreu newidiadau sy’n arwain at fwy o gyfleoedd, ond gwyddom fod angen i ni wneud llawer mwy o hyd, yn enwedig yn y cyfnod hwn o adferiad. Rydym eisiau sicrhau nad yw ein cymunedau yn cael eu heithrio rhag ymgysylltu â’r celfyddydau ar ôl y pandemig. Byddwn ni, ynghyd â llawer o sefydliadau ac unigolion eraill, yn parhau i lobïo am ddarpariaeth gynhwysol ar gyfer artistiaid, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd. Rydym eisiau i’r diwydiannau sgrin a llwyfan ddilyn Saith Egwyddor y Diwydiant, sef canllaw newydd i gefnogi’r diwydiant i wneud penderfyniadau yn gynhwysol, i fynd y tu hwnt i gydymffurfio trwy ddathlu amrywiaeth, a gweld adferiad gwirioneddol gynhwysol.
Sarah Horner, Prif Weithredwr Hijinx
Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi Hijinx fel cwmni theatr Cymreig allweddol. Mae Hijinx ar flaen y gad o ran gwaith llwyfan a sgrin gydag actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth sydd â thalent eithriadol. Mae’r cwmni’n cael ei gydnabod a’i werthfawrogi’n rhyngwladol am y gwaith hwn, ond yn hanfodol, mae’n newid bywydau ymhlith teuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn, sy’n dangos enillion gwerth bron i bum gwaith ar fuddsoddiad o ran effaith gymdeithasol, yn ein hatgoffa ni i gyd y gall y celfyddydau gael effaith enfawr a chynhwysol mewn cymdeithas. Wrth lwyfannu sioeau neu gymryd rhan yn greadigol mewn ffilmiau a rhaglenni teledu, mae Hijinx yn creu ymdeimlad o les a phosibilrwydd i gyfranogwyr ac i bawb ohonom sy’n profi eu gwaith rhyfeddol.
Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w lawrlwytho fel PDF, adroddiad sain ac adroddiad Hawdd ei Ddeall, ar wefan hijinx.org.uk, ynghyd â chyfweliadau a ffilmiau gan y bobl a gyfrannodd at yr adroddiad.
Cefnogwyd yr Adroddiad ar Effaith Gymdeithasol Hijinx gan Sefydliad Banc Lloyds.
Darllenwch yr adroddiad effaith llawn
Ein Heffaith