Mae Hijinx, ynghyd ag aelodau’r garfan o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2021, wedi cymryd y naid gyffrous o’r rhith-ofod i ofod corfforol mewn cydweithrediad newydd ar gyfer MANIFFEST 2021 – cyfres o gomisiynau trosfeddiannol, ymatebion creadigol, a chydweithrediadau yn gofyn beth sy’n grymuso ac yn cyffroi pobl ifanc yng Nghymru.
Bu’r grŵp, a oedd yn cynnwys pedwar o actorion o Academi’r Gorllewin, yn cyfarfod bob nos Iau dros ychydig fisoedd gan gymryd popeth o urddiad Biden, ddadansoddi’r dilyw o ddeunydd etholiadol a stwffiwyd trwy ein blychau llythyrau, i greu’r arolygon Zoom mwyaf hwyl erioed!
O dan gyfarwyddyd artistig Ben Pettitt-Wade, cynhyrchodd yr ensemble talentog ddarn theatr arbrofol yn archwilio materion gwleidyddol ein hamser – gyda’r rhannu olaf yn digwydd ar 1af Mehefin 2021 yn adeilad Yr Egin S4C yng Nghaerfyrddin (i gynulleidfa go iawn!) A ffrydio’n fyw ar Zoom i gynulleidfa gwadd.
Cast.
Ashford Richards
Actor Hijinx
Bethany Freeman
Actor Hijinx
Gareth Hopkins
Actor Hijinx
Zach Beasley
Actor Hijinx
Bethany Wooding
Aelod THCIC '21
Dafydd Evans
Aelod THCIC '21
Morwenna Brown
Aelod THCIC '21
Sam Jones
Aelod THCIC '21