Rydyn ni mor hapus i gyhoeddi y bydd ein perfformiad digidol ar-lein, Metamorphosis, yn rhan o raglen Gŵyl Summerhall Fringe 2021!
Bydd y profiad digidol arloesol (a rhyngweithiol!) byw yn cael ei ffrydio fel rhan o raglen ar-lein Summerhall ar gyfer 2021, o Dydd Sadwrn yr 21fed o Awst i Ddydd Sul y 29ain o Awst.
Ysbrydolwyd Metamorphosis gan nofela Frank Kafka, ac fe ail-dychmygwyd ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein. Mae’r cynhyrchiad yn cael ei pherfformio ar Zoom, gan ymweld â manteision, cyfyngiadau a gwerth comedïaidd galwadau fideo. Roedd Metamorphosis yn waith arbrofiadol i Hijinx wrth iddynt geisio ail-greu natur ryngweithiol iawn eu cynyrchiadau blaenorol.
Yn dilyn ei perfformiad gyntaf yn y byd fel rhan o ŵyl ddigidol Green Man: Festival of Streams yn Awst 2020. Tachwedd diwethaf, cafodd Metamorphosis ei dewis i berfformio yn yr ŵyl fyd-eang a digwyddiad codi arian Good Thea@tre Festival and Awards, a chafodd ei chynnal gan y Red Curtain International. Yno, derbynodd y cynhyrchiad gwobr am Gyfarwyddyd Gorau yn ogystal â defnydd Mwyaf Arloesol o Dechnoleg.
Mae Metamorphosis yn dilyn stori Gregor Samsa, sydd yn dihuno un bore o freuddwydion anesmwyth i ddarganfod ei fod wedi troi mewn i anghenfil o bryfyn trogennog. Mae wedi’i analluogi, wedi ei gaethiwo i’w dŷ, methu gweithio a methu dal ei deulu’n agos. Yn y fetaddrama hon, mae pob un o’r 12 cymeriad yn dihuno i fyd gwahanol, yn cael eu gorfodi i ail-ddehongli eu proffesiwn, eu hunaniaeth, yn wir, eu gwerth i’r byd.
Argymhellwyd i gynulleidfaoedd 14+. Yn ystod y perfformiad, bydd modd i’r gynulleidfa rhyngweithio efo gweithredoedd pleidleisio Zoom ac mae’n bosib byddent yn dod yn rhan o’r ddrama ei hunain, felly bydd angen gwisgo’n addas, neu ar y cyn lleiaf, gwisgo! Bydd y cast yn perfformio’n fyw o’i chartrefi, felly bydd siawns bydd ecstras annisgwyl (ci, cath neu blentyn) yn ymddangos. Bydd disgrifiad clywedol ac is-deitlau caeedig ar gael.
Bydd yr actor Ffion Gwyther o Academi Hijinx, a ddaeth yn llwyddiant ysgubol ar YouTube yn ddiweddar gyda’i fideos cyfnod clo a’i hymadrodd 'cwtch in and have a drink', yn ymddangos yn y cynhyrchiad theatrig ar-lein ynghyd â thîm o actorion proffesiynol Academi Hijinx, yn ogystal â cherddoriaeth sydd wedi’i chreu’n benodol gan y cyfansoddwr BAFTA Cymru Tic Ashfield.
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Hijinx a Chyfarwyddyd Metamorphosis,Ben Pettitt-Wade:
Rydym yn gyffrous tu hwnt i fod yn dychwelyd i Summerhall ar gyfer Gŵyl Fringe Caeredin 2021, er o dan amodau gwahanol iawn. Mae’r fringe wastad wedi bod am arbrofi ac yn sicr mae Metamorphosis wedi bod yn arbrofiad i ni, yn ogystal a bod yn ymateb i’r cwestiwn o sut rydym yn aros yn greadigol tra bod popeth rydym yn gyfarwydd gyda wedi diflannu. Rydym wrth ein bodd efo’r cyfle mae hyn yn cynnig i bobl i fwynhau ac uniaethu a’r ciplun dychanol yma o flwyddyn ar Zoom
Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Artistig
Gallwch gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am Metamorphosis yn Summerhall trwy ein dilyn ar Facebook, Instagram a Twitter.