Lucia Deng.
Fy enw yw Lucia/Keying Deng, ac rwy’n dod o ddinas fach yn ne Tsieina. Ar hyn o bryd rwy’n astudio gradd Baglor mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru. Rwy’n hoffi ffotograffiaeth ac rwy’n defnyddio ffotograffau i gofnodi fy mywyd. Er fy mod yn astudio darlunio, does gen i ddim llawer o hyder yn fy ngallu i luniadu nac yn fy nghreadigrwydd, felly rwyf wedi synnu ac rwy’n diolch i Hijinx am roi’r cyfle hwn i mi.
Rwyf wrth y modd i gael y cyfle i gymryd rhan yn nigwyddiad 12 Diwrnod PAWB Theatr Hijinx ac i greu gweithiau celf iddynt. Er mai dim ond mewn fideos ar-lein rwy’n cymryd rhan, rwyf hefyd yn medru teimlo’r awyrgylch gweithio hapus ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am eu goddefgarwch, oherwydd rwy’n berson swil ac nid wyf yn dda iawn am siarad.
Instagram:Â @lucia__dddd
Portffolio here.