Corachod yn dawnsio ac yn creu miri mawr mewn perfformiadau am ddim i deuluoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi eleni!
Mae Kitsch & Sync Collective wedi ymuno â Hijinx a Theatr Iolo i gyflwyno Coblyn, sioe awyr agored newydd i deuluoedd - a wnaed yn bosibl diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru.
Mae Coblyn yn ddathliad teuluol o lên gwerin Cymru, sy'n llawn anhrefn chwedlonol, creaduriaid chwilfrydig, cerddoriaeth, caneuon a dawnsio gwerin. Wedi'i pherfformio wrth ymyl gardd gymunedol Chapter, mae'r sioe yn dilyn criw afreolus o goblynnod hudol, sy'n achosi anhrefn a miri ble bynnag maen nhw'n mynd. Cynhelir y perfformiadau 20 munud o hyd am ddim drwy gydol y dydd tu allan i Chapter yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 28 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth.
Dywedodd Kylie Ann Smith o Kitsch & Sync Collective:
“Rydw i'n hynod gyffrous fy mod yn creu sioe newydd sbon wedi’i hysbrydoli gan lên gwerin Cymru a hud, gyda thîm ardderchog Hijinx a Theatr Iolo! Roeddwn i bob amser yn mwynhau dathlu Dydd Gŵyl Dewi fel plentyn, felly mae’n hyfryd cael cyfle i ddod â theuluoedd at ei gilydd ar gyfer penwythnos arbennnig o berfformiadau am ddim y tu allan i Chapter.”
Mae Coblyn yn sioe weledol sy’n cynnwys ychydig o Gymraeg, ond mae hi’n addas i Ddysgwyr Cymraeg a’r rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg. Bydd Taith Gyffwrdd a Sain Ddisgrifiad byw ar gael i gwsmeriaid dall neu’r rheiny sy’n gweld yn rhannol, a hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg ym mhob perfformiad.
Bydd Kitsch & Sync Collective, Hijinx a Theatr Iolo hefyd yn cynnig gweithdai Dawnsio Gwerin Am Ddim i Deuluoedd yn ystod gwyliau Hanner Tymor mis Chwefror. Cynhelir y sesiynau yn Chapter 17, 18 a 19 Chwefror gyda’r dawnsiwr gwerin profiadol o Gymru, Nia Rees. Mae’r gweithdai yn addas i blant 7+ oed a’u teuluoedd. Mae tocynnau am ddim, ond mae angen eu harchebu ymlaen llaw o Chapter.org
Cynhelir y gweithdai Dawnsio Gwerin Am Ddim i Deuluoedd gan siaradwr Cymraeg, a bydd pob sesiwn yn cael ei gyflwyno’n ddwyieithog.
Gwybodaeth bellach:
Cyflwynir Coblyn gan Kitsch & Sync Collective, Hijinx a Theatr Iolo gyda diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru a’n cyd gomisiynwyr, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Gŵyl Fach y Fro, Yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl.
Crëwyd gan: Kitsch & Sync Collective
Actorion: Georgina Harris, Kylie Ann Smith, Andrew Tadd, Adam C Webb
Cynllunio Gwisgoedd: Kylie Ann Smith a Rhiannon Matthews
Cynllunio Set a Phropiau: Carl Davies
Cyfansoddi a Chynllunio Sain: Dyfan Jones
Dyddiadau Perfformiadau a Gweithdai:
Perfformiadau Coblyn yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter::
Dydd Sadwrn 28 Chwefror 2026 am 11am, 1pm and 3pm
Dydd Sul 1 Mawrth 2026 am 11am, 1pm a 3pm
Gweithdai Dawnsio Gwerin i Deuluoedd
Hanner Tymor mis Chwefror
Dydd Mawrth 17, Dydd Mercher 18 a Dydd Iau 19 Chwefror 2026
10.30am – 12pm a 1pm – 2.30pm
