Seren Haf.
Rwy’n 22 oed ac yn fy mlwyddyn olaf ar gwrs BA (Anrh) Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai Bangor. Ar gyfer yr aseiniad hwn gofynnwyd i mi ddylunio cyfres o ddarluniau o fyfyrwyr y celfyddydau perfformio mewn sesiynau ymarfer ar gyfer sioe Nadolig. Mae’r delweddau hyn yn nodweddiadol o fy arddull bersonol o ddarlunio a’r broses nodweddu yr wyf wedi’i datblygu dros y tair blynedd diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at raddio a sefydlu fel darlunydd llawrydd neu ddod o hyd i waith o fewn yr arena broffesiynol.









