Hwylusyddion Creadigol

Beth yw Hwylusydd Creadigol? Clywch amdano gan ein hactorion..

Hwylusyddion Creadigol.

 

Swyddogaeth y Hwylusydd Creadigol yw galluogi ymarfer actor ar unrhyw swydd fel ei fod yn gallu cynhyrchu ei waith gorau gan gynnal iechyd corfforol a meddyliol da. Mae natur y swyddogaeth hon yn amrywiol yn aml a gall newid o achos i achos gan ddibynnu ar yr artist unigol ac ar y gwaith. Er mwyn cael gwybod rhagor, darllenwch Manyleb Swydd Hwylusydd Creadigol.

Wedi ei ariannu gan Gronfa Sgiliau Cymru Greadigol, byddwn yn rhedeg hyfforddiant i gynyddu a gwella sgiliau’r gweithlu Hwylusyddion Creadigol yng Nghymru.

Bydd y sesiynau nesaf yn cael eu cynnal 9:30am – 4:30pm:

Mis Medi 2025 – Caerdydd (CWRS YN LLAWN):

Dydd Mawrth 2 Medi – Anabledd Dysgu Cymru, 41 Cilgant Lambourne, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG

Dydd Mawrth 9 Medi  – Anabledd Dysgu Cymru, 41 Cilgant Lambourne, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG

Dydd Mawrth 16 Medi – BBC Stiwdio Porth y Rhath, Caerdydd, CF10 4GA

Dydd Mawrth 23 Medi – Anabledd Dysgu Cymru, 41 Cilgant Lambourne, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG

Dydd Mawrth 30 Medi – BBC Stiwdio Porth y Rhath, Caerdydd, CF10 4GA

 

Mis Ionawr 2026 – Gorllewin Cymru (dyddiadau i’w cadarnhau)

 

Rydym yn gwerthfawrogi amser a sgiliau gweithwyr proffesiynol llawrydd. Cyfle i gael hyfforddiant â thâl yw hwn, rhaid i’r cyfranogwyr allu bod yn bresennol am y 5 diwrnod llawn i gael £500 wrth gwblhau’r cwrs.

Cyfyngir y nifer o leoedd i 12 cyfranogwr i bob cwrs. Er mwyn cael gwybod am bwy yr ydym yn chwilio edrychwch ar Meini Prawf Hyfforddi Hwylusyddion Creadigol.

Er mwyn ymgeisio anfonwch ddisgrifiad o’r rheswm pam y byddech yn hoffi gwneud yr hyfforddiant a chopi o’ch CV at sami.dunn@hijinx.org.uk

Quote symbol

Roedd yr hyfforddiant Hwylusydd Creadigol yn newid popeth i mi. Fe wnes i gyrraedd gydag ychydig iawn o wybodaeth am weithio gyda phobl ag anabledd, ac fe wnes i adael wedi fy ysbrydoli, ac yn barod i wneud y gwaith. Fe wnaeth yr hyfforddiant roi’r offer oedd arnaf eu hangen ond fe wnaeth hefyd newid fy safbwynt o ran pwysigrwydd cynhwysiant.

Cyfranogwr Hyfforddiant Hwylusyddion Creadigol

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys.

• Atgoffa o ymwybyddiaeth o anabledd, B/byddar a dall gyda Taking Flight (Hyfforddiant ymwybyddiaeth Anabledd, B/byddar gyda Taking Flight)

• Hyfforddiant cyfathrebu

• Dogfennau hygyrchedd

• Beth mae bod yn Hwylusydd Creadigol yn ei olygu

• Sefyllfaoedd ymarferol a chyfyng-gyngor

• Ymarfer Myfyfriol

• Llesiant

Quote symbol

Roedd cael galluogydd creadigol gyda ni ar ein diwrnod ffilmio yn werthfawr tu hwnt…Roedd y broses yn naturiol a chydweithiol – hollol wych!

OnPar Productions

Quote symbol

Fe wnaeth y Galluogwyr hwyluso amgylchedd tawel a hamddenol ar y set lle roedd y talent a’r tîm cynhyrchu yn teimlo’n ddiogel a chysurus gyda’i gilydd ac roedd y diwrnod yn anhygoel o llyfn fel canlyniad.

Unquiet Media