
Rydyn ni newydd lanio’n ôl o Japan, cês dillad yn llawn a meddyliau’n gorlifo. Bu Fred yn darganfod ei gartref ysbrydol yno... ac mae’n dal i gwyno am gael ei lusgo’n ôl i Gymru.
Crynodeb byr
Hedfanon ni allan ar 23 Medi: y stop gyntaf, Tokyo! i ddechrau dwy wythnos brysur, wych o gyfarfodydd, perfformiadau, a hud annisgwyl. Roedd y nod yn syml: meithrin cysylltiadau newydd â lleoliadau a gwyliau celfyddydol, archwilio sut y gallai dull cynhwysol Hijinx deithio, a pherfformio Meet Fred fel rhan o Ŵyl Theatr Bird a Gŵyl BeSeTo yn Tottori.
Tokyo: Helo cyntaf, dyddiaduron llawn
Gosododd ein dyddiau cyntaf yn Tokyo y naws ar gyfer y daith. Cyfarfuom â thimau o Gyngor Celfyddydau Tokyo, Canolfan Gelfyddydau Saitama, Theatr Fetropolitan Tokyo, a KAAT. Pob sgwrs yn llawn chwilfrydedd am arfer cynhwysol a sut mae artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistig yn cael eu cefnogi yng Nghymru.

Mae rhywbeth egnïol am y cyfarfodydd rhyngwladol cyntaf hynny. Nid oeddem yno i gyflwyno yn yr ystyr gorfforaethol; yn fwy i gyfnewid straeon, cyfnewid syniadau, a dechrau perthnasoedd sydd wedi’u gwreiddio mewn posibilrwydd. Diolch yn fawr i’n cyfieithydd yn Tokyo, Lisa Sumiyoshi, am ein helpu i daro’r nodyn cywir.
Ein cyswllt mwyaf yn Tokyo oedd gyda’n cydweithwyr newydd, Slow Label — sefydliad celfyddydau cynhwysol Japaneaidd nodedig dan arweiniad Kris Yoshie. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfeillgarwch newydd hwn. Croesawodd Kris ni gyda chymaint o gynhesrwydd a natur agored, a helpodd yn hael i gydlynu llawer o’r daith, gan ein cyflwyno i gynifer o bobl wych yn ei rhwydwaith.
Cynhaliom weithdy a chyflwyniad ar gyfer Slow Label yn Human Plaza yn archwilio sut y gall ymarfer cynhwysol newid mannau diwylliannol, creu mynediad gwirioneddol i berfformwyr, a meithrin dysgu cydfuddiannol rhwng ein dau gwmni. Roedd yn ddiwrnod llawn cynhesrwydd, hiwmor a chysylltiad.




I Tottori: Ar y ffordd gyda Fred
O Tokyo, teithiom i Tottori (gyda chyfarfod yng Nghanolfan Gelfyddydau Toyohashi ar y ffordd). Paratôdd Ben a minnau’r set, gan ychwanegu rhai nodweddion Japaneaidd arbennig [dolen i’r time-lapse], ac roedden ni’n barod am y cynhyrchiad unwaith i’r cast gyrraedd o’r DU.
Roedd y perfformiadau, dwy sioe ag awyrgylch personol yn Bird Theatre fel rhan o Ŵyl BeSeTo, yn drydanol. Roedd gwylio Meet Fred yn glanio mewn diwylliant newydd, gyda rhythm newydd o chwerthin, o flaen cynulleidfa hollol newydd, fel darganfod y cyfan eto. Yn bennaf oherwydd bod gennym ni carfan arbennig, gan gynnwys dychweliad ‘pen Fred’ gwreiddiol, Dan McGowan.

Profodd ein hactorion Hijinx: Lindsay, Iwan, a Gareth, Japan yn eu ffordd eu hunain:
Lindsay: “Roedd hi’n gynnes iawn, weithiau’n rhy gynnes, ond des i â digon o wisgoedd newydd. Yr hyn a safodd allan fwyaf oedd pa mor garedig a chwrtais oedd pawb ... ac roeddwn i wrth fy modd â’r bwyd.”
Iwan: “Wrth gerdded o gwmpas, sylwais ar bethau nad oeddwn i erioed wedi’u gweld yn y DU. Roedd hi’n teimlo fel camu i fyd newydd, ond hefyd yn lle a oedd rywsut yn teimlo fel cartref."
Gareth: “Doeddwn i ddim yn hoffi’r holl frathiadau ar fy nghoesau [o archwilio’r goedwig], ond roeddwn i wrth fy modd yn perfformio Meet Fred ac arwain y gweithdy gyda Ben.”



Osaka: Bunraku a syniadau mawr
Ar ôl Tottori, teithiom i Osaka, dinas sy’n symud ar ei rhythm cyflym ei hun. Ein stop cyntaf oedd Theatr Genedlaethol Bunraku, lle roeddem yn ddigon ffodus i fynychu perfformiad llawn. Daeth Fred hefyd (addawodd beidio â gweiddi), ac roedd yn farddoniaeth wir wrth weld ffurf gelf ei hynafiaid.
Ymwelais i, Gareth, a Ben ag Expo 2025 hefyd fel cyfranwyr gwadd i’r digwyddiad “Cymru a Japan: Sut Rydym yn Cydweithio ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy”, ochr yn ochr â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Cyfwelodd Gareth a Ben â’i gilydd ynglŷn â sut mae gwaith Hijinx yn cyd-fynd â’r nodau byd-eang: yn enwedig cynhwysiant, cydraddoldeb a chynrychiolaeth. Roedd yn fraint enfawr bod yn rhan o ddigwyddiad mor uchel ei broffil, ac awgrymodd y sgyrsiau fod Hijinx wedi gwneud gwir effaith.

Edrych ymlaen
Daethom adref yn flinedig, yn ddiolchgar, ac yn llawn cynlluniau. Mae sgyrsiau gyda phartneriaid Japaneaidd am gyfnewidiadau, cyd-gynhyrchiadau, a phreswylfeydd artistiaid yn y dyfodol eisoes ar y gweill; dod o hyd i ffyrdd o wneud y cysylltiadau rydyn ni wedi’u hadeiladu yn wirioneddol ddwyffordd.
Nid jysd mynd â Meet Fred ar y ffordd oedd y daith, roedd yn ymwneud â chwrdd â phobl sy’n credu, fel rydyn ni’n ei wneud, bod theatr yn gryfach pan glywir llais pawb. Roedd yr ysbryd hwnnw ym mhobman yr aethom: o Tokyo i Tottori, o fyrddau cinio i ystafelloedd gwisgo.
Mae Fred eisoes yn gofyn pryd allwn ni fynd yn ôl. A dweud y gwir, felly hefyd fi!
— Ellis