Gadael Rhodd Etifeddiaeth

Gall rhoddion etifeddiaeth gefnogi cyfleoedd creadigol gydol oes i bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistig, cynyrchiadau theatr a ffilmiau cynhwysol sy’n newid calonnau a meddyliau, dyfodol lle mae pobl ag anabledd dysgu ac awtistig yn cael eu dathlu, eu parchu a’u gwerthfawrogi fel y dylent fod.

Rhoddion er Cof.

Mae dewis rhodd er cof yn ffordd ystyrlon o ddathlu rhywun arbennig, gan greu teyrnged barhaol sy’n mynd tu hwnt i eiriau.

Bydd eich rhodd werthfawr yn ein helpu i roi cyfleoedd hanfodol i rymuso, cynnwys a chynnig hunanfynegiant i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth – gan roi hyder iddynt a chyfle i ddisgleirio trwy’r celfyddydau.

Sut y gallwn ni gydnabod eich rhodd:

Rydym am anrhydeddu eich rhodd gyda gofal a pharch. Dyma rai ffyrdd y gallwn gydnabod eich haelioni:

  • Anfon llythyr diolch personol at y teulu neu drefnydd y rhodd er cof
  • Cynnwys teyrnged ar ein gwefan neu yn ein rhaglenni (gyda’ch caniatâd)
  • Rhannu’r newyddion diweddaraf am sut y mae’r rhodd yn gwneud gwahaniaeth yn Hijinx
  • Rhoi tudalen benodol neu lyfryn ar gyfer digwyddiad coffa, os yn addas

Rydym yn barod iawn i drafod beth yw’r ffordd orau o gydnabod eich rhodd mewn ffordd sy’n teimlo’n ystyrlon i chi a’r teulu.

Sut i roi rhodd er cof:

  1. Cysylltwch â ni: Sut i roi rhodd er cof. Byddwn yn eich arwain trwy’r broses ac yn ateb unrhyw gwestiynau.
  2. Cyflwynwch eich rhodd: Gallwch roi’n ddiogel ar-lein, trwy siec, neu trwy drosglwyddiad banc – p’run bynnag sy’n gweddu orau i chi.
  3. Rhannwch eich dymuniadau: Rhowch wybod i ni sut y byddech yn hoffi i’ch rhodd gael ei gydnabod, ac os oes gennych unrhyw deyrnged y byddech yn hoffi i ni ei chynnwys.
  4. Byddwn yn cadarnhau: Byddwn yn anfon cadarnhad ac yn trefnu’r gydnabyddiaeth gyda pharch a gofal.
  5. Cadwch gysylltiad: Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am y gwahaniaeth y mae eich rhodd yn ei wneud trwy ein cylchlythyrau a storïau gan y gymuned.

Diolch i chi – os byddwch yn dewis cofio anwylyd trwy rodd i Hijinx, rydym yn hynod ddiolchgar. Bydd eich haelion yn agor drysau ar greadigrwydd, hyder a chysylltiadau i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth – gan droi coffâd yn newid gwirioneddol a chadarnhaol.

Gadael Rhodd yn Eich Ewyllys i Hijinx.

Dychmygwch ddyfodol lle mae theatr gynhwysol yn parhau i ffynnu ar draws Cymru – ac o gwmpas y byd. Lle mae perfformwyr ag anableddau dysgu ac awtistiaeth nid yn unig yn cael eu croesawu, ond yn cael eu cydnabod a’u dathlu ar ganol y llwyfan. Lle mae perfformiadau grymus yn tanio cysylltiad, herio tybiaethau ac agor calonnau.

Trwy adael rhodd yn eich ewyllys i Hijinx, byddwch yn helpu i sicrhau bod y dyfodol hwnnw’n dod yn ffaith.

Boed eich rhodd yn cefnogi ein Hacademïau perfformio proffesiynol, perfformiadau yn dod â storïau cynhwysol i lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol, neu allestyn cymunedol yn cyrraedd pobl sydd prin byth yn cael profi theatr…bydd yn weithred barhaol o gred mewn dyfodol lle mae’r celfyddydau yn wirioneddol yn perthyn i bawb.

A ydych wedi Gadael Rhodd yn Barod? Diolch.

Os ydych wedi gadael rhodd i Hijinx yn barod yn eich ewyllys, diolch i chi.

Chi ddylai ddewis os ydych am rannu eich cynlluniau neu beidio, ond fe fyddem wrth ein bodd yn cael cyfle i ddiolch i chi am eich haelioni yn bersonol.

Llenwch ein Ffurflen Addo Cymynrodd os ydych yn fodlon rhannu’r wybodaeth.

Rydym Yma i Chi

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn benderfyniad personol.

Os hoffech chi drafod hynny, gofyn cwestiynau, neu ddim ond rhoi gwybod i ni am eich bwriad, byddem yn falch iawn o glywed gennych – yn gyfrinachol a heb unrhyw ymrwymiad.

Gofynnwch am sgwrs:

(include contact box for fundraising email address)

Pa Fath o Rodd Allaf i ei Rhoi?

Mae dwy ffordd syml o adael rhodd yn eich ewyllys:

  1. Rhan o’ch Ystâd (a elwir yn ‘Rhodd weddilliol’)

Ar ôl gofalu am eich anwyliaid, fe allech ystyried gadael canran o’ch ystâd i Hijinx.

Geiriad enghreifftiol:
“Rwyf fi’n rhoi [gweddill fy ystâd / cyfran o __ % o fy ystâd) i Theatr Hijinx, elusen gofrestredig rhif 1078358, o Theatr Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL, i’w ddefnyddio ar gyfer ei dibenion elusennol cyffredinol.”

  1. Swm Penodol (Rhodd Ariannol)

Mae hyn yn swm penodol o arian y gallwch ddewis ei roi.

Geiriad enghreifftiol:
Rwyf fi’n rhoi’r swm o £[swm) i Theatr Hijinx, elusen gofrestredig rhif 1078358, o Theatr Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL, i’w ddefnyddio ar gyfer ei dibenion elusennol cyffredinol.”

Mathau eraill o roddion

Efallai hefyd eich bod am adael eitem benodol, fel eiddo neu gyfranddaliadau. Gall eich cyfreithiwr eich cynghori am y ffordd orau i eirio hyn.

Ein Haddewid Cymynrodd i Chi

Rydym yn deall bod gadael rhodd yn eich ewyllys yn benderfyniad personol ac ystyriol iawn. Os byddwch yn dewis cefnogi Hijinx yn y ffordd arbennig hon, dyma ein haddewid i chi:

  • Byddwn yn gwario eich rhodd gyda gofal a diben, gan sicrhau ei bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar ein gwaith cynhwysol.
  • Ni fyddwn fyth yn rhoi pwysau arnoch. Eich penderfyniad chi yw hyn, a byddwn bob amser yn rhoi’r amser a’r lle sydd arnoch eu hangen i’w wneud yn eich ffordd eich hun.
  • Eich anwyliaid sy’n dod gyntaf. Rydym yn parchu yn llwyr mai eich teulu a’ch ffrindiau yw eich prif flaenoriaeth, ac ni fyddwn fyth yn ceisio newid hynny.
  • Rydym yn gwybod y gall amgylchiadau newid, ac rydym yn deall yn llawn os byddwch yn penderfynu diweddaru neu dynnu eich rhodd yn ôl yn y dyfodol.
  • Byddwn yn anrhydeddu eich dymuniadau. Os byddech yn hoffi i’ch rhodd gefnogi maes penodol o’n gwaith byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich rhodd yn cael ei gwario yn ôl eich dymuniad.
  • Byddwn yn trin eich anwyliaid gyda sensitifrwydd a pharch os byddwn fyth mewn cysylltiad â nhw parthed eich rhodd.
  • Byddwn yn ymateb i unrhyw gwestiynau yn ddidwyll a phrydlon, ac yn eich cefnogi gyda chyfathrebu clir, llawn cydymdeimlad ar bob cam.
  • Byddwn yn anrhydeddu eich preifatrwydd bob amser. Os byddwch yn rhannu eich bwriadau gyda ni, mae’r wybodaeth honno’n aros gyda ni. Ni fyddwn fyth yn rhannu na gwerthu eich manylion personol.
  • Rydym wedi ymrwymo i arfer gorau. Rydym yn dilyn y Cod Ymarfer Codi Arian a nodir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, ac rydym yn falch o gadarnhau’r safonau moesegol uchaf.

Diolch i chi am ystyried y ffordd arbennig hon o gefnogi Hijinx