Fred yn Mynd i France!

Mae’r Pyped Rheglyd sy’n Ymladd yn erbyn Rhagfarn yn cychwyn ar daith 31 dyddiad o amgylch Ffrainc y mis hwn.

Bydd y sioe theatr boblogaidd arobryn Meet Fred gan Hijinx yn cychwyn ar daith 31 dyddiad o amgylch Ffrainc, ar ôl aros am wiriadau mewn perthynas â Brexit a phasiau COVID-19 y GIG.

Cynhyrchir Meet Fred gan Hijinx mewn cydweithrediad â Blind Summit. Cafodd y cynhyrchiad adolygiadau gwych yn dilyn cyfres o berfformiadau a werthwyd allan yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2016, a arweiniodd at ymddangosiadau rhyngwladol gan gynnwys yng Ngŵyl Theatr Pypedau’r Byd yn Charleville-Mézières yn Ffrainc. Mae wedi parhau i deithio, ac erbyn hyn, yn ei phumed flwyddyn, mae Meet Fred wedi’i pherfformio dros 230 o weithiau, wedi’i gweld gan dros 23,000 o bobl ac wedi ymweld â 19 o wledydd gan gynnwys Unol Daleithiau America, Tsieina a De Korea yn ogystal â ledled Ewrop.

Hijinx yw un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop, sy’n ymdrechu dros gydraddoldeb trwy wneud celf ragorol gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ar y llwyfan, ar y sgrin, ar y stryd, yn y gweithle, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i Gymru ac i’r byd.

Gohiriwyd taith Meet Fred yn Ffrainc, a drefnwyd ar gyfer 2020, tan fis Hydref 2021 oherwydd y pandemig diweddar. Bydd Hijinx yn perfformio dros 30 o ddyddiadau mewn lleoliadau ledled Ffrainc gan gynnwys Granville, Rouen, Annecy, Chamonix a Lannion. Hon fydd yr ail daith ryngwladol gan Hijinx eleni; mae’r cynhyrchiad arall, sef Grumpy Unicorns, ar daith o amgylch strydoedd yr Almaen ar hyn o bryd.

Dywedodd Ellis Wrightbrook, Uwch Gynhyrchydd Hijinx:

“Ar ôl 235 o berfformiadau, mae Meet Fred wedi cael ei ffurfio gan yr artistiaid talentog dros ben a fu’n rhan o’r ensemble dros y blynyddoedd. Mae pob actor neu bypedwr newydd yn dod â phersbectif ac egni ffres i’r perfformiad, a gyda’r cymal nesaf hwn o deithio sy’n cynnwys y newidiadau mwyaf i’n cast hyd yn hyn – mae’n teimlo fel ein bod ni’n perfformio am y tro cyntaf, unwaith eto!”

Ellis Wrightbrook, Uwch Gynhyrchydd

Fodd bynnag, nid mater syml oedd cael y sioe yn ôl ar y ffordd. Dyma fydd y tro cyntaf i dîm Meet Fred ddychwelyd i Ewrop ers Brexit a COVID–19. Er mwyn sicrhau bod y tîm yn cadw mor ddiogel â phosibl, maen nhw wedi gorfod ffurfio “swigen”, a chael profion PCR a phrofion llif unffordd yn rheolaidd fel rhan o’u trefniadau. Mae llawer iawn o waith papur y mae’n rhaid ei gwblhau mewn cysylltiad â Brexit a COVID–19, heb sôn am y risgiau sy’n gysylltiedig â bod allan o’r wlad pe bai unrhyw aelod o’r tîm yn cael canlyniad positif i brawf. Hyd yn oed yr wythnos hon, bu dychryn wrth i aelod o aelwyd y Cyfarwyddwr gael canlyniad positif i brawf, sydd wedi arwain at ynysu Ben Pettitt-Wade oddi wrth y cast ac iddo gyfarwyddo’r ymarferion trwy Zoom. Felly pam gwneud hyn o gwbl?

Dywedodd Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Artistig Hijinx:

“Mae Meet Fred yn sioe bwysig, mae’n adrodd stori person sy’n brwydro mewn byd na ddyluniwyd ar ei gyfer, mae’n stori sy’n ymwneud â gwahaniaeth, ac yn un na chlywir yn aml. Yn ogystal, dyma sioe fwyaf llwyddiannus Hijinx ac mae galw rhyngwladol amdani yn parhau. Nid yw’n ddi-straen ond teimlwn ei bod yn bwysig nad ydym yn gadael i Brexit a Covid ddod yn rhwystr rhag cyfnewid rhyngwladol.”

Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddywr Artistig

Pyped ‘bunraku’ yw Meet Fred, sy’n ddwy droedfedd o daldra ac wedi’i wneud o frethyn. Mae’n ymladd yn erbyn rhagfarn bob dydd. Mae eisiau bod yn foi cyffredin, yn rhan o’r byd sydd ohoni, a chael swydd a chwrdd â merch, ond pan ddaw’r bygythiad y bydd yn colli ei PLA (Lwfans Byw i Bypedau) mae bywyd Fred yn dechrau troelli allan o’i reolaeth.

Mae’r sioe yn archwiliad gwreiddiol o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn wahanol. Gyda ffraethineb a hiwmor tywyll, mae Hijinx yn archwilio themâu annibyniaeth, grymuso, gofal ac anghyfiawnder cymdeithasol, ac yn datgelu’r sefyllfaoedd hurt y mae rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn eu profi pan gymerir eu cymorth oddi wrthynt. Mae’n ffrwydro’r myth ein bod ni ‘i gyd yn hyn gyda’n gilydd’.

Cynhelir unig berfformiad Meet Fred yng Nglan yr Afon, Casnewydd, ar 15 Hydref, 7.30pm. Bydd y cynhyrchiad yn teithio o amgylch Ffrainc rhwng mis Hydref 2021 a mis Ebrill 2022. Mae’n addas ar gyfer pobl 14+ oed. Mae’n cynnwys iaith gref a phypedau noeth.

Meet Fred mewn France 2021 - 2022 Dyddiadau Taith

DateLocation
19/10/2021Pornichet
20/10/2021Hatue-Goulaine
22/10/2021Machecoul
11/01/2022Granville
13/01/2022Loudéac
14/01/2022Lannion
18/01/2022Cesson-Sévigné
19/01/2022Cesson-Sévigné
20/01/2022Cesson-Sévigné
21/01/2022Montfort-sur-Meu
03/02/2022Villenave-d'Ornon
04/02/2022Cestas
07/02/2022Cahors
08/02/2022Mirepoix
09/02/2022Mirepoix
10/02/2022Saint-Jean-de-Védas
11/02/2022Millau
15/03/2022Hazebrouck
17/03/2022Lucé
18/03/2022Pontchâteau
19/03/2022Vern-sur-Seiche
22/03/2022Lillebonne
23/03/2022Rouen
24/03/2022Rouen
25/03/2022Pont-Audemer
28/03/2022Villard-Bonnot
29/03/2022Annecy
31/03/2022Chamonix
26/04/2022Séné
28/04/2022Ancenis-Saint-Géréon
29/04/2022Nort-sur-Erdre

Follow us on social media for more updates on the Meet Fred in France 2021 - 2022 tour!